Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfrol XXIV. CHWEFROR, 1861. Rliifyii STS OONFUOIUS A'I DDYSGYBLION. CONFUCIUS, YR ATHRONYDD CHINE- ÁIDD MAWR. Yn nghylch pum'" can' mlynedd cyn dyfodiad Crist yn y cnawd, pan yr oedd cyffrediniaethau (republics) Groeg oll yn eu gogoniant, a Rhuf- ain yn dechreu ymddyrchafu mewn gallu a öiawredd, ganwyd Kong-foo-tse, (neu fel y'i ys- grifenir yn Lladin Confucius). Ni wyddent y Croegiaid a'r Rhufeiniaid ond ychydig neu ddim am China y pryd hwnw ; ni ddychymyg- ent y Chineaid ychwaith fod unrhyw amherod- raeth fawr yn y byd ond yr eiddynt eu hunain. Yr oedd Confucius yn gydoesol â Solon, ^eddfroddwr Athen. Yr oedd yn fab i'r prif- weinidog ar y pryd hwnw, yn llŷs Loo, un o'r «enaduriaethau bychain yn ngogledd China. ^Q gymaint a'i fod o duedd efrydgar, nid oedd ganddo ddim blas at chwareuon ieuenctyd, ond defnyddiai ei oriau hamddenol i ddarllen, fel pan nad oedd ond mewn oedran boreuol iawn yr oedd wedi gwneuthur cynydd mawr yn nysgeidiaeth ei amserau. Ymbriododd panyn bedair-ar-bymtheg mlwydd oed, ond yn cael fod gofalon teuluaidd yn rhwystr iddo gyda. ei ymchwiliadau athronyddol, ysgarodd ei wraig oddiwrtho a thrôdd ei holl feddyliau at fifurfio cyfundrefn berffaith o lywodraethiad. Perchid ei ddoniau a'i rinweddau yn uchel yn ystod ei fywyd, a neillduwyd ef yn un o brif ynadon y wlad. Yn y sefyllfa yma, lle y cafodd y cyf- leustra goreu i ddyfod yn gydabyddus a'r cyf- reithiau, a'r dull yn mhaun yr oeddynt yn cael eu troseddu yn barhaus neu eu hysgoi, fel y daeth yn llwyr argyhoeddedig o'r angenrheid- rwydd am ddiwygiad trwyadl yn y gyíundrefn I gyrhaedd adnabyddiaeth mwy trwyadl o'r bobl, ac ar yr un pryd eu parotoi i'r cyfnewid. iad dymunol, ymdeithiai irwy y gwahanol dal-