Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyírol XXV. TACHWBDD, 1803. Iiliify-ri 299. %XUÎ\ẁMlt $t9 PREGETH A draddodwyd gan y diweddar Barch. John Ilughes, Lwerpool, ar y maes, yn Nghymanfa Bangor, Medi 6, 1862. "Y mao arnafofn am danoch, rhag darfod i mi hoeni wrthych yn ofer.—-Gal, iv. 11." Bebnir fod Eglwys Galatia wedi cael ei phlanu trwy offerynoliaeth yr Apostol Paul, ac y mae yn ymddangos ei fod ef wedi cael derbyniad croesawgar ganddynt, ac wedi llwyddo i radd- au helaeth i'w dychwelyd oddiwrth eu hofer- goelion, a'u heilunaddoliaeth, i broffesu Crist. Ond ryw bryd ar ol i'r Apostol fod yn offeryn i wneyd y gorchestwaith hwn, yr ydym yn cael fod yno ryw athrawon gau, o draddodiad, ac o syniadau Iuddewaidd, wedi dyfod i'wmysg, ac yr oedd yr athrawon hyny yn honi nad oedd Paul yn sefyll ar gystal tir fel Apostol â'r Apostolion ereill, oblegid nad oedd ef wedi bod yn nghwmpeini Crist yn nyddiau ei gnawd. Yr oedd yr athrawon gau hyn, debygid, yn honi mai Jerusalem oedd eisteddle yr awdur- dod, ac mai o Eglwys Jerusalem yr oeddynt i ddysgwyl i'r gwirionedd ddyfod allan; yr oeddynt gyda hyny yn haeru fod yn rhaid, i'r dyben i fod yn gadwedig, i'r dysgyblion gy- meryd eu henwaedu, a bod yn rhaid iddynt tgadw cyfraith Moses, yn gystal a chredu yn Nghrist. Y mae yn ymddangos hefyd fod y ddysgeidiaeth hon, trwy yr athrawon Iuddew- aidd hyn, wedi effeithio yn lled niweidiol ar Eglwys Galatia, ac y mae yn lled debyg fod yno gryn raddau o ymryson wedi dyfod i mewn ì'w mysg, a'u bod trwy y terfysg a grewyd gan yr athrawon hyn wedi myned i gnoi ac i "îraflyncu eu gilydd : y mae yr Apostol yn ys- grifenu y llythyr hwn atynt, wedi deall y di- 36 frod a wnaed ar eu heddwch, ac ar eu llwydd- "iant trwy y gau-athrawon hyny, yn ymliw â hwy am iddynt mor fuan gymeryd eu siglo oddiwrth y symlrwydd ag oedd yn Nghrist. Y mae yn y lle cyntaf yn profi ei apostoliaeth, neu yn dangos mai nid o ddyn, na thrwy ddyn, y derbyniasai efe yr efengyl; 'íe, na chawsai ef mo honi oddiwrth yr apostolion er- eill chwaith. Bu Paul dros lawer o flynydd- oedd wedi dechreu ei weinidogaeth cyn bod un gymdeithas rhyngddo â'r apostolion ereill oll, ac ni bu ef mewn gwirionedd yn ymgynghori â chîg a gwaed erioed yn y mater, oud fod yr Yspryd Glâu wedi dadguddio y Mab ynddo ef, a'i í'od wedi derbyn ei apostoliaeth, ac wedi cael ei addysgu mewn modd uniongyrchol gan Grist ei hunan, ac felly ar gystal tir ag yr oedd neb o'r apostolion ereill. Wedi hyny y mae yn ymliw â hwy o herwydd eu hanwadal- rwydd, ac yn synu at eu hynfydrwydd—" 0 ! Galatiaid ynfyd, pwy a'ch llygad-dynodd ;" fel pe dywedasai, Yr ydych wedi ymddwyn yn hyn yn ffol dros ben, fel pe baech wedi eich llygad-dynu—yr ydych fel rhai a fyddai dan effaith math o swyn, eich bod yn ymddangos mor wallgof, ac mor ffol, heb i chwi ddechreu yn yr Yspryd, i ddysgwyl eich perffeithio yn y cnawd ; ac mewn difrif, fel pe dywedasai, "Ai o weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch chwi yr Yspryd" ar y dechreuad, "ynte o wrandaw- iad ffydd ?" Yr oedd y gofyniad ei hunan yn cynnwys atebiad. Yr oedd yn hawdd iawn i bawb wybod mai nid o weithredoedd y ddeddf y derbyniasant hwy yr Yspryd Glân, orid trwy wrandawiad ffydd. Wel, w7edi i chwi ddechreu yn yr yspryd, a berffeithir chwi yr awr hon ynycnawd? "0! Galatiaid ynfyd, pwy a'ch llygad-dynodd chwi ?" Yna y mae yr Apostol yn myned yn ralaen i osod i lawr yr athrawiaeth fawr sydd yn cael ei dadguddio yu yr efengyl, sef cyfiawnhad pechadur trwy fjydd yn Nghrist heb weithredoedd y ddeddí';