Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXIII. RHÀGFYR. 1860. Rliifyn 376 YR HANBSYDDIAETH YSGRYTHYROL. TR EGI7WYS APOSTOLATDD. PENNOD XCIII. [Parliad o dudalen 412.] Wrth sefyll uwch ben yr banes, mae yn bur naturiol i'r meddwl geisio portreiaöu—tynu darlun iddo ei hun o'r amgylchiad, ac o ym- ddangosiad personol y ddau ŵr mawr yma. Yn arlun Paul cawn yr holl linellau Iuddewig yn ymddangos yn gryfion yn ei wynebpryd, yn nghyda chryn lawer o'r athronydd Groegaidd mawreddig—yn arddangos meddwl gwreiddiol a threiddgar—ei i"arf yn llaes a theneu, bychan ac ysgafn o gorffolaeth—yn cael ei anurddo gan gloffíú, yr hyn a dynai arno gau ei wrthwyneb- Wyr yn awr ac eilwaith ymadroddion diystyr- Hyd—ei ben yn foel, a nodwedd ei wynebpryd yn dangos symudiadau cyfiawn ei dymer.—sir- iolder a dengarwch yn eistedd yn naturiol ar ei wedd, yr hyn a barai ei fod yn hawdd i ddy- eithriaid nesâu ato a rhoddi hyder ynddo. Byddai yn ddigon naturiol casglu oddiwrth ei deithiau meithion fod ei gyfansoddiad yn hai- arnaidd bron ; ond mynych y gwelir dynion o gyfansoddiad eiddil yn dal mwy na mwy o galedfyd. Arddangosir Pedr yn ŵr o ffurf llawer cad- arnach, a'i ddullwedd yn fwy garw a gwledig, a dengys ei lygaid duon y gweithrediadau cryf- ion sydd o'r tu ol iddynt; lliw ei wynebpryd yn dywyll. Dywedir fod ei wallt yn wyn yn amser ei ferthyrdod, ond yn ddu a thew pan safodd Paul ag yntau yn Antìoch wyneb yn Wyneb 18 mlynedd cyn hyny. Hwyrach fod rhyw gymaint o sail i'r arlun- iau hyn, a hawdd genym gymeryd hdp llaw ganddynt, er presenoli yr oiygfa o'n blaen, lle mae Iuddewiaeth a Christionogaeth yn mher- sonau y ddau apostol yn cael eu dwyn mor amlwg ger bron. Mae ymadroddion Paul wrth Pedr o flaen y cynulliad o Gristionogion yn Antioch yn eglur, yn gosod allan yr efengyl ar gyfer y ddeddf. "' Os wyt ti, a thi yn Iuddew," &c, (Gal. ii. 14.) Yr ymadroddion hyn ydynt ganwyllyn yr Bpistolau at y Galatiadid a'r Rhufeiniaid. Er fod braidd swa digofus yn llais Paul, eto ni raid i ni feddwl eu bod yn cweryla a'u gilydd ; ac nid ydyw yn anhebyg na argyhoeddwyd Pedr o'i fai, ac iddo ei gyf- addef, ac ymostwng yn uniongyrchol, oblegid yr oedd o naturiaeth o duedd gyfnewidiol, a gallwn ddysgwyl i'w edifeirwch yn gystal a'i wendid yn y tro dd'od mor amlwg ag yn yr amgylchiad hwnw yn Uys yr archoffeiriad. Beth bynag am hyny, raae yn sicr na wnaed rhwyg parhaus rhwng y ddau apostol, oblegid cawn Pedr yn ei lythyr yn cyfeirio yn barchus at ys- grifeniadau ei anwyl frawd, Paul, pa rai oedd yn cynwys y cerydd hwn iddo ef. Nid ydym yn cael golwg ar y ddau gyda'u gilydd ar y maes hyd yr olygfa olaf oll yn Rhufain. 0 dan ystyriaeth ddifrifol nad oedd ei ryfel- gyrch yn erbyn gallu y tywyllwch yn agos ar ben, mae Paul yn bryderus am wisgo yr arfog- aeth eto, a myned allan i'r maes. Teimlai y pryder mwyaf dros yr eglwysi a blanasai, a galwai ar ei hen gyfaill a'i gydymdeithydd— " Tyred, ac ymwelwn â'r eglwysi," &c. Tybiem bron wrth ei lais mai nid dyma y waith gyntaf iddo geisio codi Barnabas allan, ac fod y gvVr da hwnw braidd yn hwyrfrydig i gychwyn, Ofnai Paul fod y gelyn yn cymeryd mantais ar y dychweledigion ieuainc, ac yn eu denu o ;di- wrth y ffydd, ac y byddai eu llafur yn ofer. Y mae yma eto ddygwyddiad anghysurus yn cy- meryd lle. Ni foddlonai Barnabas i fyned allân i'r daith faith, flin, beryglus, heb gymeryd Ioan Marc, nai iddo ef fab ei chwaer, gyda hwy, yn