Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xl.] MEHEFIN, 1877 [Rhif. 486. Arweiniol. TEYRNAS DDUW Gan y Parch. Edward C. Evans, M. A., gynt 0 Princeton, N. J., yn awr 0 Rydychain, Lloegr. " A phan ofynodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddysgwyl. Ac ni ddywedant, Wele yraa ; neu, Wele acw : canys wele, teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae."—Luc 17 : 20, 21. Ceir crybwylliadau mynych yn y Testament Newydd am deyrnas Dduw. Defnyddid yr ymadrodd yn aml gan Iesu Grist yn ei ym- ddyddanion aTi bregethau. Yr ydym yn cwrdd â'r gair mewn rhyw gysylltiad yn fynych yn yr Epistolau. Ac weithiau, fel yn ngeiriau y testyn, cawn engreifftiau o'r Phariseaid a'r luddewon anghrediniol yn ei arfer. Y mae hyri yn awgrymu, os nad yw hefyd yn profi, fod y gair mewn arferiad cyffredin yr adeg hon yn mhlith yr Iuddewon i ddynodi yr adferiad gwladol a chrefyddol yr oeddynt mor awyddus yn dysgwyl am dano. Yr oedd dysgwyliad cyffredinol yn nyddiau Crist, nid yn unig yn mhlith yr Iuddewon, ond hefyd drwy holl ^ledydd y dwyrain, am ymddangosiad rhyw ^aredwr. Yr oedd y natur ddynol yr adeg ûon wedi ymsuddo mor ddwfn mewn pechod ~-wedi syrthio i'r fath bydew o lygredigaeth, fel ag i ddeffroi rhyw ddyhead greddfol yn nghalon dyn am adferiad a gwaredigaeth. Yr °edd y teimlad hwn yn amlygu ei hunan mewn ^odd gwahanol yn mhlith gwahanoì genedl- °edd. Yr oedd y cenedloedd, fel rheol, yn fyheu am ryw adferiad moesol a meddyliol. ^r oeddynt hwy yn teimlo angen greddfol am rywbeth i atal llifeiriant llygredigaeth yr oes— am ryw foddion i ddyrchafu moesoldeb, ac am ryw allu sancteiddiol i roddi bywyd new- ydd yn holl gylchoedd cymdeithas. Ond yr oedd yr Iuddewon yn dysgwyl am ryw chwyl- droad gwladol. Dysgwyl am adferiad y fren- iniaeth i Israel yr oeddynt hwy; neu yn hyt- rach, am adferiad yr hen ddwyf-lywodraeth yn yr hon y cydnabyddent Dduw fel eu brenin, a'r eglwys, neu'r wladwriaeth Iuddewig, fel ei deyrnas. Fel yr awgrymwyd eisoes, defnyddid yr ym" adrodd teyrnas Dduw yn mhlith yr Iuddewon mewn cyfeiriad at adferiad yr hen oruchwyl. iaeth yn ei sefydliadau gwladol a'i seremoniau crefyddol. Ac y mae Iesu Grist wrth ddefn- yddio yr un gair yn dangos, er fod yr hen or- uchwyliaeth wedi darfod, eto fod cysylltiad agos rhwng y ddwyf lywodraeth a'r deyrnas a sefydlai ef yn eu plith. Egwyddor sylfaenol y ddwyf-lywodraeth Iuddewig oedd cydnabydd- iaeth o Dduw fel eu brenin drwy ufudd-dod i'w orchymynion. Yr un hefyd yw egwyddor sylfaenol teyrnas Dduw dan yr oruchwyliaeth newydd, sef derbyn* a chydnabod Duw yn mherson Iesu Grist, fel yr hwn y dylem gy- segru ein bywyd a'n gwasanaeth iddo. Fel hyn ý mae gwirioneddau hanfodol eglwys Dduw—egwyddorion sylfaenol y deyrnas, yn aros yr un drwy yr oesoedd, a than bob gor- uchwyii?eth; ond y mae ffurfiau y gwirionedd a sefydliadau y deyrnas yn cyfnewid yn fyn-