Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xl.] GORPHENAF, 1877. [Rhif. 487. Arweiniol. TEML DUW YN CAEL EI HAGOR YN Y NEF. SYLWADAU EGLURHADOL AR DATGUDDIAD, PENOD XI. ADNOD 19. Gan y Parch. Joseph E. Davies, Hyde Park, Pa. ' Ac agorwyd teml Duw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod ef, yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a thar- anau, a daeargryn, a chenllysg mawr." Mae y geiriau hyn yn cael eu cynwys dan agoriad y seithfed sêl, udganiad y seithfed ud- gorn, a thywalltiad y seithfed phiol. Tebygol *od y saith udgorn a'r saith phiol yn cyfeirio at yr un cyfnod amseryddol. Cydmarer Dat. 11 : *5—19, a Dat. 19 : I—9. Ymddengys fod y Seithfed sêl, y seithfed udgorn, a'r seithfed phiol yn cynwys ynddynt yr ysbaid o amser o Sefydliad yr heddwch gwladol a chrefyddol gan Cystenyn Fawr, trwy yr oesoedd tywyll, Qyd doriad gwawr y Diwygiad Protestanaidd J'n y pedwar ar ddeg cant. Cynwysant y peth- au rhyfedd a gymerasant le yn yr ysbaid hwnw " 0 amser, mewn byd ac eglwys—y naill fel y Uall. Cymer y benod hon i mewn, a gesyd allan y goruchwyliaethau a ddygwyd yn mlaen tuag at i' ddau dyst, gan Dduw a'u gelynion. Ar ẅydda y ddau dyst yma yr ychydig ddynion ^uwiol oedd gan Dduw wedi cael eu cadw yn °falus yn y byd ; ond o'r diwedd goddef iddynt gael eu Uadd gan eu gelynion. Arwydda hyn lddynt gael eu hymlid gan eu gelynion i ryw le ^irgel ac anghysbell, fel nad oeddent i'w gwel- ed mwy ar y maes gyda chrefydd. Aiwydda Uadd yn hollol, ataliad gweithrediadau y by wyd dynol yn allanol. Felly y mae lladd y ddau ^yst yn arwyddo, hollol ataliad gweithrediadau bywyd allanol a gweithiol crefydd y groes. Defnyddir y gair lladd yn aml yn yr ystyr hwn, yn mhob oes o'r byd. Cymerodd hyn le yn yr oesau tywyll, yn agos trwy yr holl fyd Crist- ionogaidd'. Yn adnod yr unfed-ar-ddeg, o'r benod hon, yr ydym yn cael cyfnod n'ewydd yn gwawrio ar y tystion. Cawsant eu cyfodi i fyny gan ysbryd bywyd oddiwrth Dduw, a hwy a gymer- wyd i fyny i'r nef, sef i'r eglwys fel cyni, a galluogwyd hwy i sefyll yn wrol dros y wir grefydd, trwy ei phroffesu yn ffyddlawn. Mae yn debyg fod y cyfnod hwn yn dechreu gyda therfyniad yr oesau tywyll, ac yn cyrhaedd yn mlaen o hyny hyd ddiwedd y milfiwyddianb, pan y bydd y tystion oll yn'eu gwisgoedd allan- ol goreu. Yn mhlith pethau rhyfedd eraill a gymeras- ant le yn y cyfnod hwn, ^welai Ioan, " Deml Duw yn cael ei hagory4 yn y nef." Y mae y "nef" yma, fel mewn manau eraill yn y llyfr hwn, yn golygu yr eglwys. A chan y dywedir fod y " deml" yn cael ei hagory1 yn yr eg-* lwys (nef), rhaid ei bod yn golygu rhywbeth cysegredig, oedd wedi cael ei gau i fyny, a'i osod o'r neilídu yn ddirgel. Mae gwahanol feddyliau gan esbonwyr o berthynas i'r hyn a olygirymawrth"deml Duw;" ond nis gwnawn