Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xl.] HYDREF, 1877 [Rhif. 490. Arweiniol. ONÍD HWN YW Y SAER?" Gan y Parch. Roger Edwards, Wyddgrug, G. C. " Onid hwn yw y saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Judas, a Simon? ac onidyw ei chwiorydd ef yn ein plith ni ? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef."—Marc vi. 3. IESU Grist a geir yma yn ddiystyredig gan ei hen gydnabod a'i gyd-drefwyr yn Nazareth, ar gyfrif anenwogrwydd ei deulu, a'i alwedig- aeth gyffredin pan yn eu mysg. Mae rhai yn tybied mai yr un ymweliad â Nazareth oedd hwn â hwnw yr adroddir am dano yn Luc iv., pan ar y Sabboth yn y syn- agog y cyfododd yr Iesu i fyny i ddarllen, ac y rhodded ato lyfr y prophwyd Esaias, ac y darllenodd yntau y brophwydoliaeth hono am y Messiah, " Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf," &c, gan ychwanegu, " Heddyw y cyflawnwyd yr ysgrythyr hon yn eich clust- iau chwi." Y pryd hwnw wele y rhai oedd yn y synagog, ar ol rhyfeddu i ddechreu wrth ei eiriau grasusol, yn ymgynddeiriogi ar ei waith yn cymwyso'r gwirionedd yn argyhoedd- iadol atynt hwy, ac yn myned mor bell a cheisio gwneyd pen am ei einioes. Ond fe dybygid mai cywirach yw'r syniad mai ymwel- iad arall oedd hwn, am ba un y coffëir hefyd gan Matthew : yr Iesu, yr hwn nad oedd byth yn diffygio yn gwneuthur daioni, heb gymeryd ei ddigaloni gan y gwrthodiad o hono a'r anfri amo y tro blaenorol, yn dyfod drachefn " i'w wlad ei hun," sef i Nazaréth, lle y magesid ef. Yno ar y dydd Sabboth, fel o'r blaen, y mae efe yn athrawiaethu yn y synagog; yn cy- hoeddi eto ei genadwri rasol i'r rhai a gawsai mor anhynaws ac anniolchgar. Ond derbyn- iad cwbl annheilwng o hono a roddasant iddo y tro yma drachefn. " Synu a wnaeth llawer â'i clywsant ;"■ nid oddiar gymeradwyo ei athrawiaeth, ond oddiar genfigen wrth ei allu a'i fedr, a chan gyfeirio yn iselhaol at ei gysylltiadau teuluaidd, a'i ddyg- iad i fyny yn eu plith. "O ba le y daeth y pethau hyn i hwn?" meddynt; " a pha ddoeth- ineb yw hon a roed iddo, fel y gwnaed y cyf- ryw nerthoedd trwy ei ddwylaw ef ?" Nis gallent wadu nad oedd doethineb digymhar yn ei leferydd, a nerthoedd digyffelyb yn nglyn â'i weithredoedd; ond yr oeddynt yn methu cysoni hyny â'i iselder gynt. Nis mynent wel- ed a chydnabod y Dwyfol yn y dynol, ac yn enwedig mewn dyn na chawsai fanteision cyf- oeth a dysg." " Hwn!" meddynt, gan bwynt- io ato yn ysgornllyd; " hwn !" Y mae efe yn sicr yn dyweyd a gwneyd pethau rhyfedd; ond yr ydym ni yn methu deall pa fodd : " y cyf- ryw nerthoedd trwy ei ddwylawef!" y dwy- law fu yn gweithio gwaith saer yn ein tref a'n cymydogaeth. " Onid hwn yw y saer ?" Yn yr adroddiad gan Matthew, ni a ddarllenwn, " Onid hwn yw mab y saer ?" Yr oedd y bobl hyn yn Nazareth yn arfer y ddau ymadrodd ; ac felly y mae Matthew yn coffâu y naill, a Marc y llall. " Onid hwn yw y saer, mab Mair ?" Fe fernir fod Joseph, tad cyfrifol yr Iesu,