Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

344 HYSBYSIADAU CREFYDDOL. " Fod y Gymdeithasfa yn penderfynu, fel rheol gyffredin, na dderbynia neb rhagllaw i fod yn Bregethwyr i'r holl Gorff, ond a fyddo wedi bod yn yr Athrofa ani dymmor, oddieithr eu bod wedi cael manteision addysg ryw ffordd arall." Am yr "arholiad sydd i fod arnynt mewn Cyfeisteddfod priodol o barth i nerth eu galluoedd, eu llafar am, a'u cyrhaeddiad mewn gwybodaeth, cyn eu cyüwyno i sylw y Gymdeithasfa," eglurwyd nad ydyw yr arholiad hwnw yn dirymu, nac yn gwneuth- ur yn afreidiol yr arholiadau arferol ar bre- gethwyr ieuainc mewn Cyfarfodydd Misol a Chymdeithasfaoedd, nac yn rhoddi un hawlfraiut iddynt i fyned ymlaen ond yn ol galwad a phenderfyniad y Cyfarfodydd Misol y byddout yn perthyn iddyut. Cafodd y rheol, gyda yr ychwanegiad a nodwyd, ei had-gadarnhâu trwy arwydd o gymeradwyaeth y Gymdeithasfa hon. Dydd Mercher, Medi 7ed. Cyfarfod y Pregethwyr a'r Diaconiaid am 8 o'r jloch yn y bore. I. Penderfynwyd gyda golwg ar wŷr ieuainc heb fod yn bregethwyr a elo i'r Athrofa :—Fod y Cyfarfod hwu yu dymuno bod yn annogaethol i'r Athrawon yn y Bala arfer pob rhyddid i brofi dynion ieuainc ag a fyddo dan eu gofal o bryd i bryd, fel ymgeiswyr am y weinidogaeth, a hyny ymhob dull ag y barnont hwy yn ddoeth; ond fel na thybier eu bod, trwy hyny, yn galw neb i'r swydd o bregethu, dymunir gwueyd yn hysbys i'r gwledydd, a'i sefydlu fel rheol yn ein mysg, fod pob dyn ieuanc i adael yr Athrofa yn yr un cyfiwr ag yr aeth iddi. Ac os bydd yn parhâu yn ei awydd am fod yn bregethwr ar ol ymsefydlu yn y wlad y byddo yn byw ynddi, ei fod i'w brofi yn ol y drefn arferol, ac i'w ddewis neu ei wrthod fel y bernir am ei gymhwysderau ; ac fel hyn, megys na fynem attal y cymhwys i'r weinidog- aeth, er na byddo wedi cael manteision Athrof äol, felly hefyd dymunem ei fod yn ddealladwy yn ein mysg nad yw meddu y cyfryw fauteision ynddo ei hun yn ddigonol i, nac o anghenrheidrwydd yn gwneyd neb yn, bregethwr yn ein mysg. Gwybydder. nad yw y rheol hon yn lluddias galw dyn ieuauc i fod yn bregethwr yn ystod yr amser y byddo yn yr Athrofa, os bydd addfedrwydd i hyny yn Nghyfarfod Misol y Sîr y perthyna iddi. II. Galwyd sylw at Jubili y Fibl-Gym- deithas. Mae y 12fed o Hydref wedi ei benodi gan Gyfarwyddwyr y Fam-Gym- deithas i gadw cyfarfodydd Jubili gan yr holl Gymdeithasau Canghenol, hyd y gellir, trwy y byd. Dymunol fyddai i breswyl- wyr holl ardaloedd Cymru ymgyfarfod, os bydd modd, ar y dydd hwnw, i ddangos eu hunaiu o blaid Cymdeithas a wnaeth ac sydd yu gwneuthur cymaiut i daenu gwyb- oilaeth yr Arglwydd trwy yr holl ddaear. Dysgwylir i Gyfarfod Misol pob gwlad annog y cynnulleidfiioedd i ymegn'io gyda hyn, a chynllunio pa fodd i fyned ymlaen yn fwyaf effeithiol. III. Anuogwyd y cynnulleidfäoedd i gadw cyfarfodydd diolchgarwch eto eleni am ddaioni yr Arglwydd tuag atom yn y tymmorau a'r cyuauaf. Er iddo ein bw- gwth yn hyn, yr ydym yn ei gael yn Dduw yn ein harbed ; awn gan hyny i niewn i'w byrth ef â diolch. IV. Y mater athrawiaethol a roddwyd i lawr i ymdrin aruo ydoedd,—Cyfiawn- hâd a Sancteiddhàd; beth yw y naill a'r llall, eu gwahaniaeth, a'r cysylltiad rhyngddynt. Rhoddir cofnodau o'r ymdriniaeth yn y rhifyn nesaf o'r Drysobea. R. E., Ysgr. ^àpìûw (írrfijììnl. LLYTHYB ODDIWRTH Y PABCH. JOHN DAYIES, TAHITI, AT Y PARCH. JOHN HÜGHES, PONT RHOBERT. ( Cyfieithiad.) [Mae yn ddiau y bydd yn dda gan ein dar- llenwyr yn gyffredinol, ac yn enwedig gan y rhai mwyaf oedranus o honynt, gael dar- llen llythyr unwaith yn ychwaneg oddiwrth yr hen gonadwr ffyddlawn, y Parch. John Davies, yr hwn gynt ydoedd aelod yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Mhont Rho- bert, ac a gychwynodd o Brydain yn ne- chreu haf 1800. Y mae efe yn 81 mlwydd oed er mis Gorphenaf. Hyderwn y bydd darlleniad ei lythyr yn cynnyrchu yr hyn a ddymunir ganddo yn ei ddiwedd, sef gwedd'iau dyfal ar ran y genadaeth or- thrymedig yn Tahiti. Y mae yn drueni fod lle a fu mor obeithiol ac mor enwog yn rhestr Cenadaethau Protestanaidd, yn cael ei lethu gan Lywodraeth anhywaith a Phabaidd y Ffrancod.] Papara, Tahiti, Ebrill 20, 1853. Fy anwyl frawd, a'm hen ohebydd cyson er ys mwy na hanner cant o flynyddau, Parodd clywed oddiwrthych hyfryd- wch mawr i mi, gan fy mod wedi ofni nad oeddych chwi mwyach yn nhir y rhai byw. Y llythyr diweddaf a ysgrifenais a gyfeir-