Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Rhif. LXXXVI.] CHWEFROR, 1854. [Llyfr V1IL ẅirctjnta i # nlrátotlnni. Y SWYDD DDIACONAIDD. Ctnghob a boddwtd tn ngosodiad Diaconiaid tn Eglwts Abebswaen, Rhagftr 27, 1853, GAN Y PARCH. THOMAS RICHARDS. Enw ysgrythyrol a roddir i swyddwyr yn eglwys Crist yw Diaconiaid. Mae peidio defnyddio a rhoddi yr enw hwn yn dangos mwy o waeledd nag o rin- wedd, ac wedi bod yn ddiffyg hirfaith, heb un rheswm am hyny ond amlwg ddylanwad pleidiol, gan adael y ffordd nniawn, yr hyn yw y gwirionedd am bob peth, a rhoddi i bawb ryddid i feddwl a baruu drostynt eu hunain, yn ol hawl pawb i'w gael, heb farnu neb, er eu bod yn wahanol eu barn i ni; canys bod "heb farnu" neb, a "heb gabíu neb" yw y gorchymyn ; oher- wydd "i'w Arglwydd ei hun y mae" pob un "yn sefyll neu yn syrthio;" a «phob un drosto ei hun a rydd gyfrif i Dduw" am y pethau hyn fel am bob peth. Mae peidio â'r pethau sydd yn Ngair yr Arglwydd niewn geiriau ac enwadau pendant yn ommeddiad gwir- foddol. Y mae mor amlwg yn y Gair, âg y gallo yr hwn a redo ei ddarllen, fod Esgobion a Diaconiaid yn perthyn i hanfod Eglwys Crist. Ni rodclir A rch wrth ynaill na'rllall o honynt. Yr ydym yn dy wedy d hyn heb roddi un gwir achos tramgwydd i Iuddewon na Groegwyr, i Gristionogion o un enwad; canys felly y dywed yr Ysgrythyr am y swyddau byn. Tramgwyddo wrth hyn fyddai bramgwyddo wrth y gair. Titlau yn perthyn i'r oruchwyliaeth Iuddewig oedd Archoffeiriad ac Archsynagog- ydd. Nid yw y Testament Newydd yn 3on am nac Archoffeiriad nac Arch- ddiacon yn swyddwyr eglwysig, ond yr Ctfres Newydd. Archoffeiriad mawr sydd ar dŷ Dduw ; ac nid oes eisieu nac ail nac arall ond yr Hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu, Mab Duw, canys y mae Efe yn anfarwol yn ei swydd. Dangosir Esgobion a Dia- coniaid yn swyddwyr yn Eglwys Crist. Mae bod yr Eglwys wedi peidio rhoddi yr enw Esgob i fugail neu weinidog eglwys, wedi agor drws i gamddefnyddiad arno, a chwanegiad Uygredig ato ; er, fe allai, nad oes llawer o bwys mewn peidio defnyddio yr enw Esgob mwy na pheidio defnyddio yr enw Angel; canys rhoddir y ddau i swyddogion yn yr un swydd. Angelion y gelwid gweinidogion eglwysi Asia, y rhai, mewn ffurf a threfn, ydynt yn gynllun amlwg i Eglwys y Testa- ment Newydd, dan yr oruchwyliaeth efengylaidd. Ond Diaconiaid yw y gwrthddrychau presennol, y rhai sydd, yn ol yr enw, i gael eu gosod yn y weinidogaeth hon, yn weision i weini. Gwasanaethu yr eglwys yw gweinidogaeth y swydd, ac nid bod yn feistriaid nac arglwyddi i dra-awdurdodi na thra-arglwyddiaethu ar " Eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed." Y berthynas uch- elaf yn yr eglwys yw plentyn, a'r swydd uchelaf y w gwas. Nid oes yn yr eglwys un swydd yn uwch na gwas, nac ynddi un swydd yn îs na gwas ; er bod uwch ac îs yn perthyn i swyddau y gweision. Y gostyngeiddiaf yn y gwasanaeth y w'r gwas mwyaf. " Yr hwn a fyno fod yn fwyaf, bydded yn was i bawb. Canya yr hwn a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir ;