Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. ÜHIF. XCV.] TACHWEDD, 1854. [Llyfe VIII. ŵtójflŵmr ii ŵbbtotjrira. GALWAD AB, BECHADURIAID I DDYCHWELYD AT DDUW. Crynodeb o Bregeth a lefarwyd gan y PARCH. FOULE EVANS, MACHYNLLETH. Esaiah xxxi. 6: " Dychwelwch at yr hwn y llwyr-giliodd meibion Israel oddiwrtho." Mater y geiriau hyn yw galwad i ddy- chwelyd at Dduw. Arngylchiad y wlad pau lefarwyd yr adnod hon, oedd cael ei blino gan yr Assyriaid. Anilwg y w bod Israel yn bobl gyfammodol gan Dduw, a bod gwlad Canaan wedi ei rhoi iddynt gan yr Arglwydd. Fe'i haddäwyd yn foreu i Abraham, ac mewn amser daethant yn feddiannol arni. Yr oedd Duw yno yn eu mysg ; sefydlodd ei ordinhadau yn eu plith. Ymhen amser, dyma y bobl hyn yn gadael Duw, yn tori ei gyfammod, yn troseddu ei ddeddf. Byddai yntau mewn canlyniad yn eu rhoddi weithiau i'w gelynion ; ac felly dyma hwy y pryd hyn yn cael eu blino gan yr Assyriaid. Ond ynlle ti-oi at Dduw am gymhorth, y maent yn troi i'r Aipht—yn troi at ddyn- ion yn lle at Dduw. Dyben y pennodau hyn yw be'io arnynt, a dangos eu hyn- fydrwydd yn dysgwyl wrth ddynion, ac nid wrth Dduw. Yn y testun, mae yma alwad arnynt i ddychwelyd at Dduw. Yr ydych yn dychwelyd—ond nid i'r lle y dylech. Mae y gair dychwdyd yn arwyddo, dyfod yn ol, dyfod i'r lle y buont o'r blaen; mae yn dangos na byddent yn hardd yn un lle ond y lle yr aethant o hono. Mae y geiriau yn dangos i ni heddyw bod dyn wedi bod gyda Duw, ond ei fod wedi ei lwyr adael. Mae y geiriau .hefyd yn gosod allan agwedd yr eglwys .mewn gwrthgiliad, a galwad rasol arni yn y cyfryw sefyllfa. "Dychwelwch at yr hwn y llwyr-giliodd meibion Israel oddiwrtho." Cyfres Newydd. Mater y geiriau yw, galwad ar bech- aduriaid 'i ddychwelyd at Dduw. Mewn cysylltiad â hyn, gallaf enwi tri neu bedwar 0 faterion. I. BOD DYN WEDI BOD GYDA DüW. II. BOD DYN WEDI YMADAEL A DUW. III. Mai YR YMADAWIAD HWN A DYNODD BOB AFLWYDD A DYRYSWCH ARNO. IV. DYMA WAWR WEDI T0RI ; DYMA ALWAD ARNO I DDYCHWELYD YN OL. I. BOD DYN WEDI BOD GYDA DüW. Yr oedd golwg hardd ar ddyn un- waith, pan grëwyd ef; bu ar ddelw Duw, ac mewn cyfammod â Duw. 1. Ar ddelw Duw. 0 bob peth a wnaeth Duw, ni wnaeth ef ddim ar ei ddelw ond dyn ; nid wyf yma yn llefaru am yr angelion, na chrëaduriaid byd- oedd eraill, ond yn unig am grëadur- iaid ein byd ni. Yr oedd pob peth i ddangos Duw i ddyn, ond dyu yn unig oedd ifwynhâu Duw ; ac mewn trefn i hyny, gwnaed ef ar ei ddelw. Yr oedd Duw yn gyfìawn, yr oedd dyn felly ; yr oedd Duw yn sanctaidd, yr oedd dyn felly. Delw Duw heddyw yw ei gyf- raith ; yr oedd dyn pan ei crëwyd yn llon'd y gyfraith ; ond nid ydyw felly yn awr. 2. Mewn cyfammod â Duw. Fe godwyd dyn i gyfammod â Duw. Dyma beth mwy na bod ar ddelw Duw, mwy na bod yn sanctaidd; codi y crëadur i hawl gyfammodol yn Nuw. Ac felly yr oedd dyn yn y boreu. Ond yn n. Mae dyn wedi ymadael a Duw. Nid yw yn y lle y bu; nid ywyn y h h