Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSORFA. Ebif. CLXVLJ HYDREE, 1860. [Llyfr XIV. ŵarfjmta. Y BIBL YN AMLYGU Y GALOtf. Llythyb at Gyfaill. GAN Y PARCH. GEORGE WTLLIAMS, TY DDEWI. Anwyl Gyfaill,—Daeth eich llythyr yn ddiogel, ac yr oedd yn wir dda gen- ym glywed oddiwrthych. Yr oedd nefyd yn llawenydd i'n calon gael ar ddeall fbd y Bibl yn aros yn hoff lyfr genych, eich bod yn parhâu i'w ddar- llen a'i astudio, a'ch bod yn llafurus i sicrhâu eich meddwl fwyfwy am y gwirionedd o hono, ac i arfogi eich hun â'r rhesymau cryfaf tros ei ddwyf- oldeb. Wrth ddarllen eich llythyr, teimlais awydd i'ch cyfarch âg ychjdig o linellau; ac os nad wyf yn eich cam- ddeall, yr ydych yn awgrymu y byddai yn dda genych glywed oddiwrthyf, oblegid wrth adrodd eich hanes eich hun, yr ydych yn troi i ofyn pa beth sydd ar hyn o bryd yn rhoddi y bodd- lonrwydd mwyaf i mi am ddwyfol darddiad yr Ysgrythyrau. Erbyn dechreu ysgrifenu, yr wyf yn teimlo y byddai yn dda genyf pe bu- asech wedi apelio at rywun arall o'ch cyfeülion; ond yr ydych wedi Ueihâu y gwaith yn fawr drwy ofyn, nid, pa rai ydynt y rhesymau cryfaf tros y go- sodiad fod y Bibl yn air Duw, ond, pa beth sydd yn rhoddi y boddlonrwydd mwyaf i mi yn bersonol, ac ar hyn o bryd. Yr ydych yn cofio yr ymddyddan a fu rhwng yr Arglwydd Iesu â'r wraig o Samaria, fel ei hadroddir gan Ioan yn y bedwaredd bennod o'i efengyl. Beth a feddyliech am gymhwyso, at yr Ys- gryfchyrau, ddadl y wraig mewn perth- ynas i Grist? Trowch i'r bennod, a darllenwch yr ymddyddan yn bwyllog; a sylwch, wrth fyned ymlaen, fel yr oedd goleuni ac argyhoeddiad yn radd- ol yn cymeryd meddiant o feddwl y wraig, mewn perthynas i'r Hwn oedä yn ymddyddan â hi. Ar y cyntaf, nid oedd Efe yn ei golwg ond Iuddew dir- mygedig, a chrwydryn anghenus, ond yn raddol daeth i'w gydnabod yn Ar- glwydd, yn Brophwyd, ac yn Grist— y Messîah. Pan dywynodd y gwirion- edd i'w meddwl, " hi a adawodd ei dyfr- lestr, ac a aeth i'r ddinas, ac a ddy- wedodd wrth y dynion, Deuwch, gwel- wch ddyn, yr hwn a fynegodd i mi yr hyn oll ag a wnaethum; onid hwn yw Cristl" Cyn cymhwyso ei hymresymiad at y mater mewn liaw yn awr, goddefwch i mi ofyn ai ni ddichon fbd rhyw gyffel- ybrwydd rhwng y dull ymha un y dyg- wyd y wraig hon i adnabyddiaeth o Grist â'r dull ymha un y dygwyd Ua- wer i adnabyddiaeth o wirionedd y Bibl. Rhywbeth graddol ydoedd: rhywbeth yn effeithio ar y gâlon i'w thwymno, yn gyetal ag ar y pen i'w oleuo; rhyw- beth a gymerodd le rhyngddynt hwy â'r Bibl ei hunan, ac nid canlyniad i unrhyw resymau na hyawdledd o eiddo dynion. Ewch chwithau, fy nghyfaill, at y Bibl ei hun, os ydych am eieh sicrhâu yn y gwirionedd o hono. Nid oes neb na dim a ddiohon wneyd y gwaith droa y Bibl, yn gystal ag y di- e e