Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CXXX.] HYDREF, 1857. [Llyfr XI. totjiota; n #njiẁtjfiM« Y CYNGHOE A DIUDDODWTD i'n Erodtr Ordeiniedig yx Xghymdeithasfa Pontfaen, Sir Forgaxwg, Awst 6ed, 1857, GAN Y PARCH. JOHN JONE3, BLAENANERCH, 1 Tlm. iii. 14, 15 : " Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifenu atat, gan obeithio dyfocl ntat ar fyrder. Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae yn rhaid i ti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd." - Y pethaü hyn yr ydwyf " fi, sef Paul, "yn eu hysgriíenu atat," sef Timotbeus. Wrth "y pethau hyn" y niae i nî ddeall y pethau yr oedd yr Apostol wedi eu uodi yn flaenorol—pethau yr epistol hwn. "Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifenu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder." Yr oedd Paul, pan yn ysgrifenu yr epistol hwn, yn bwriadu ymweled âg ef yn bur fuan ; ond ar yr un pryd nis gwyddai pa beth a allasai ddygwydd yn ei Iwybr i'w luddias ; ac o ganlyniad efe a ddywed yn yr adnod ganlynol, "Os tariaf yn hir, fel y gwyp- ech pa fodd y mae yn rhaid i ti ym- ddwyn yn nhŷ Dduw." Sefyllfa Timo- theus ydoedd "yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd." Mae ymddwyn yn y fath sefyllfa o bwys a chanlyniad. Mae ymddwyn yma fel aelod cyffredin o bwys; pa faint mwy fel swyddog ? Fel swyddog yr oedd Timotheus yn cael ei ystyried—fel gweinidog ieuanc. Felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi eich galw gan eglwys Dduw yn ei pherthynas â'r enwad hwn i gyflawn waith y wein- idogaeth—i weinyddu yr ordinhadau sacramentaidd, ac i borthi praidd Duw, gan fwrw golwg arnynt; ac y mae ym- ddwyn yn addas a theilwng yn y fath sefyllfa o bwys a chanlyniad mawr. Yn awr mi a roddaf rai cyfarwydd- iadau gyda golwg ar hyn. 1. Tuag at laaw y lle, a chyíîawni y swydd hon yn addas a theilwng, rhaid i chwi fod yn feddiannol ar wir grefydd, ac yn brofiadol iawn o bethau crefydd. Braint yw hon, sef pregethu yr ef- engyl, nad oes neb yn ei chael ond dynion duwiol. Gwir yw fod Duw wedi gwneuthur defnydd o rai megys Balaam; ond nid dyma ei Iwybr cy- ffredin. Nid yw efe ddim yn ymddir- ied i neb am y gorchwyl yma ond dyn- ion gwir dduwiol. Am hyny, fy mrodyr, edrychwch chwithau beth sydd genych. " Holwch chwi eich hunain a ydych yn y flydd." Rhaid i chwi fod wedi eich goleuo eich hunain cyn y galloch fod yn foddion i oleuo eraill. Rhaid i chwi ddeall y perygl eich hunain, cyn y gell- wch yn iawn rybuddio eraill i ffoi. Rhaid i chwi fod wedi adnabod Crist eich hunain, cyn y gellwch ei bregethu i eraill. Rhaid i chwi fod yn brofiadol o waed y groes o ran ei rinweddau eich hunain, cyn y gellwch yn iawn ei ddadleu neu ei ganmawl i eraill. Cyn i'r prophwyd Esaiah gael ei anfon íl'r e c