Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSOEFA. Rhif. CXXXIL] RHAGFifR, 1857. [Llyfr XL ŵntfjjoîtott n ŵjiáiflrffjím. TYSTIOLAETH IESU. PREGETH NADOLIG A DRADDODWYD YN ABERGWAEST, GAN Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS RICHARDS. CWcdi ei chymerycl o'i lawysgHf ef ci hun.J DaDSUDDIAD xxii. 18 : "Myfi Iesu a ddanfonais fy ançel i dystiolaethu i chwi y pethau hyn yn yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a'r Seren fore eglur." Mae y geiriau rhyfedd hyn o enau yr Arglwydd Iesu, yn helaethrwydd eu cynnwysiad, yn dangos eglurhâd, a chadarnMd, a gwirioneddiad perffaith am yr holí Ysgrythyrau eu bod yn ddwyfol ddadguddiad. Ceir yrna dyst- iolaeth Crist am dano ei hun mewn tri pheth : I. Penaduriaeth. Ií. Personol- iaeth. III. Goruchwyliaeth. I. Mae ei dystiolaeth yn ei ddangos yn Benaeth mewn awdurdod. Gwelir hyn yn laf. Yn yr enw cyntaf sydd ganddo yma,—Iesu. "Mvfi fesu." Mae y geir- iau hyn, mewn dull o ymadroddi, yn dangos mawredd, urddas, a gogoniant annhraethol. 1. Yr oedd yr enw hwn wedi ei roi iddo mewn bwriad ac arfaeth cyn ei eni. Angel o'r nefoedd a'i mynegodd cyn ei ymddangosiad. Ac felly yr oedd ei bob peth ef,—yn arfaethol. Yr oedd y cwbl a wnawd arno mewn gorchwyliaeth, a'r cwbl a wnawd iddo ymhob ymddygiad ato, a phob dyben i'r cwbl a wnawd, canys yr oedd dyben i'r holl bethau am dano,—yr oedd y cwbl yn arfaethol cyn iddo ddyfod i'r byd—y cwbl wedi eu rhaglunio. "I wneuthur pa bethau bynag a ragluniodd dy law a'th gynghor cìi eu gwneuthur." 2. Mae iachawdwriaeth yn yr enw lesu. Oblegid hyny y rhoddwyd yr enw arno. "Ti a elwi ei enw ef Iesu, oblo- gid efe a wared ei bobl oddiwi-th eu pechodau." Mae hyn yn ei ddangos yn awdwr iachawdwriaeth dragywyddol, ac yn dangos yr iachawdwriaeth sydil ynddo, ac yn dangos bod yn rhaid cael hon at fod yn bobl iddo, ac mai cael hon yw bod yn bobl iddo. Nid oes neb yn bobl i'r Iesu ond a waredir gan yr Iesu, na neb yn cael eu gwaredu gan yr Iesu ond sydd yn cael eu gwaredu oddiwrth eu pechodau. 3. Mae yr iachawdwriaeth sydd yn enw y Gwaredwr yn amlwg yn mhawb sydd yn ei meddu. Mae yn rhyddhâd oddiwrth gondemniad trwy dystiolaeth ynddo ei hun, er y gall fod heb adnab- od y rhyddhâd dros ryw amser. Ac y mae yn lanhâd oddiwrth halogiad, fel y mae efe "yn ei buro ei hun." Ac y mae yn rhoddi esmwythâd oddiwrth, bwysau y baich o bechod, ac oddiwrth ofn damnedigaeth o herwydd pechod. Yn nghanol byd nad oes dim i'w gael ond gorthrymder ynddo, y mae tang- nefedd i'w gael yn Nghrist. "Yn y byd gorthrymder—^ynof fi tangnefedd." 2il. Yn yr hyn a wnaed yma ganddo: "Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dyst- iolaethu i chwi y pethau hyn yn yr eglwysi." Mae ei benaduriaeth yma> i'w ganfod, 1. Yn ei awdurdod a'i feddiant ar l 1