Symud i'r prif gynnwys

Y DRYSORFA. RHIF. CXCIX.] GORPHENAF, 1863. [Llypr XVII. 'î&tMtyẁm. GWAED Y TAENELLIAD. GAN Y PAECH. JOHN LEWIS, EHYMNEY. Hebreaid xii. 24: "A gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Pwnc yr Apostol yn y geiriau hyn, yn gystal ag yn yr holl Epistol, yw dangos gogoniant a rhagoriaeth yr oruchwyl- iaeth efengylaidd ar yr un gysgodol, a rhagorfreintiau Cristionogion o dan y Testament Newydd ragor hreintiau duwiolion o dan yr Hen Destament. Ac y mae efe yn son am bethau fel hyn yn y fan yma, fel y gellid meddwl, er mwyn dangos i'r Hebrëaid gynt, ac i idnnau yn awr, y perygl mawr sydd ynglŷn â gwrthod a diystyru y fath ragorireintiau goruchel; oblegid os na ddiangodd dynion yn ddigosb am wrthod a diystyru breintiau yr hen oruchwyl- iaeth, mae ein perygl ni yn awr yn llawer mwy, gan fod ein manteision yn fwy, a'r oruchwyliaeth yr ydym o dani yn llawer rhagorach. Ac ymhlith pethau eraill, dywedir ei bod yn rhagori yn ei gwaed, neu yn ei Haberth, o gymaint ag y mae gwaed Crist yn rhagori ar waed Abel. " A gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Wrth waed y taenelliad y meddylir gwaed Iesu Grist, Cyfryngwr y testa- ment newydd. Nid y llifnodd coch oedd yn ngwythienau ei gorff sanctaidd a olygir—nid ei waed naturiol; ond ei farwolaeth, ei waith yn aberthu ei hun. Pa faint o rinwedd a allasai fod yn ngwaed naturiol yr Arglwydd Iesu, nis gwyddom. Mae rhai yn dyweyd nad oedd dim, ond ni chymerem ni lawer am ddyweyd hyny. Yr oedd rhinwedd yn y cwbl ag oedd yn perthynu iddo ef, a phaham nad allasai fod rhinwedd yn ei waed ef hefyd ? Yr oedd rhinwedd yn ei boeryn ef i agoryd llygaid y dall; yr oedd rhinwedd yn ei lais i godi Lazarus o'r bedd ; yr oedd rhinwedd yn ei lygaid i edrych Pedr i edifeirwch; yr oedd rhinwedd yn ei law i iachâu clust gwas yr archoffeiriad; ac yr oedd rhinwedd yn ei wisg i iachâu y wraig â'r dyferlif gwaed; a phaham nad all- asai íbd rhinwedd yn ei waed ef hefyd? Ond wedi y cwbl, nid y gwaed oedd yn rhedeg trwy wythienau ei gorff a fedd- ylir yma wrth waed y taenelliad, eithr ei waith yn rhoi ei fywyd yn aberth dros bechod—ei ufudd-dod a'i ddyoddef- aint. Ac fe elwir marwolaeth Crist yn waed, am fod bywyd yn y gwaed, ac er dangos fod Iesu Grist wedi rhoi ei fywyd yn aberth drosom ni. Ond fe'i gelwir yn icaed y taenelliad,— Yn gyntaf, Mewn cyferbyniad i waed yr anifeiliaid a leddid gynt o dan y gyf- raitli, yr hwn a daenellid ar ddynion a phethau erailL er mwyn eu puro a'u glanhâu; megys y dywed yr Apostol, " A chan mwyaf trwjr waed y purir pob peth wrth y gyfraith." Yr oedd gwaed yn cael ei daenellu o dan yr hen oruch- wyliaeth o herwydd amryw bethau, ac i amryw ddybenion. 1. Yr oeddid yn taenellu gwaed er cadarnhâu a selio cyfammodau. 0 gan- lyniad, pan aeth yr Arglwydd i gyfam- mod âg Israel yn Horeb, yr ydyîn yn