Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CCI.] MEDI, 1863. [Llyfr XVII. %xtofyaiiwx. OFFEIRIADAETH DRAGYWYDDOL CRIST. PREGETH A DRADDODWYD GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN JONES, TAL Y SARN. (Ysgrifeuwyd wrth ei gwrandaw.) Hebreaid vii. 24: " Ond hwn, am ei fod yn aros yn dragywydd, sydd âg offeiriad- aeth dragywyddol ganddo." Un o amcanion yr Apostol yn ysgrifenu yrepistol hwn oedd ennill y genedlludd- ewig oddiwrth oruchwyliaeth Moses, a'u cymmodi â'r omchwyliaeth efengylaidd, ac felly eu cael oddiwrth yr offeiriadaeth Lefìaidd at oífeiriadaeth fawr yr Ar- glwydd Iesu. Yr oedd hyn, ar amryw- iol gyfrifon, yn beth anhawdd iawn ei wneuthur. Yr oedd y genedl yn gwy- bod mai yr Arglwydd Dduw ei hun oedd yr hwn a sefydlodd yr offeiriadaeth yn llwyth Lefi er ys llawer oes, ac nid oeddynt felly yn cydnabod neb yn offeiriaid ond a fyddent o lwyth Lefi. Yr oeddynt yn gwybod hefyd nad oedd yr Iesu wedi hanu o'r llwyth hwnw, a chan hyny gwelent nad oedd iddo hawl i'r offeiriadaeth yn ol eu cyfraith hwy. "Canys hysbys yw mai o lw3Tth Judah y cododd ein Harglwydd ni, am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth." Yr oedd hyn, ymysg pethau eraill, yn rhwystr cryí* i'r Iudd- ewon dderbyn Iesu Grist fel offeiriad, gan nad oedd efe, yn ol eu tyb hwy, o'r lawn lwyth. Yr oedd gan y genedl olwg uchel iawn ar y swydd ofteiriadol; •îdrychent arni yn swydd o bwys mawr, a dysgwylient bethau mawrion trwyddi. Trwy eu harchoffeiriad a'u hoffeiriaid y cyflwynenteu holl aberthau a'u hoffrym- au i Dduw. Yr archoffeiriad a fyddai yn urfer myned drostynt i'r cysegr sanct- eiddiolaf, i wneuthur cymmod rhyng- ddynt â'r Barnwr Goruchaf. Yr oedd hyn, mae yn amlwg, wedi eu hanvain i edrych ar y swydd offeiriadol fel swydd oedd jti cael effaith bwysig ar eu hachos gyda Duw, ac oblegid hyny yr oedd yn anhaws eu tynu oddiwrthi nag oddiwrth unpeth ymron; o herwydd dyma hwy wedi gosod eu gobaith pwysicaf i grogi wrthi. Ond yr ydyni yn cael yr apostol Paul —os efe, fel y mae, hwyrach, y rhan fwyaf o'r dynion mawr a da yn barnu, oedd awdwr yr epistol hwn—yn cyfarfod y syniad yma mewn ffordd hynod ddoeth a deheuig. Mae yn symud ymaith yr wrthddadl seiliedig ar offeiriadaeth llwyth Lefi mewn modd hollol deg, trwy ddwyn i'w sylw hen offeiriaid, agydna- byddid gan y genedl yn gyffredinol fel gwir offeiriad i Dduw. Ac yr oedd Abraham, yr hwn oedd yn cydoesi âg ef, yn ei gydnabod fel offeiriad; a chyda golwg ar yr offeiriad hwnw, nis gallasai efe fod o'r achau offeiriadol Hebrëaidd; ac yn ol ei urdd ef, fel y dywedir yn niwedd y bennod o'r blaen, y gwnaethid Iesu yn offeiriad : " Iesu—a wnaeth- p^vyd yn archoffeiriad yn dragywydd yn ol urdd Melchisedec." Efe a ddaeth i'r swydd yn gyffelyb mewn rhj-w bethau i'r modd y daethai Melchisedec iddi. Ac yn nechre y bennod hon, mae yr ys-