Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhip. CCX. MEHEFIN, 1864. [Llyfr XVIII. Wtwáỳsòm. HOWELL HARRIS. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, ABERTAWE. Yn Nhrefècca, o fewn i lai na milldir i dref fechan Talgarth, y ganwyd Howell Harris, ar y 23ain o Ionawr, 1714, cant a hanner o flynyddoedd a deng niwrnod i'r dydd heddyw; ac yn Eglwys Tal- gárth y cafodd ei aileni ar Sul y Pasg, 1735. Yr ydym yn bur gydnabyddus â Threfecca fel y mae yn awr. Gall ein meddwl o'r fan yma dynu darlun pur gywir o'r adeilad a fu am flynyddoedd ar unwaith yn deml i Dduw, ac yn gar- tref i deulu mawr o wir ddysgybHon Iesu Grist, ac a fu wedi hyny, ac sydd i fod eto, yn Athrofa y Methodistiaid Calfinaidd yn Neheudir Cymru. Y mae yn edrych i lawr arnom fel yr ydym yn myned â'n hwyneb tua'r dwyrain ar hyá y ffordd sydd yn arwain o Lanfihangel i Dalgarth. Nid oes dim yn agos iddo yn rhoddi lle i gasglu ei fod wedi ei hir esgeuluso; ond y mae pob peth o'i amgylch, ei rodfëydd, ei goed a'i blanigion, ar unwaith yn profi ei fod wedi bod dan ofal boneddwr sydd yn deall y prydferth ac yn ei garu. Y mae ffermdŷ—tybiwn ei fod unwaith yn cael ei alw yn balas—yn sefyll ychydig i'r gorllewin oddiwrtho. Gelwir hwnw Trefecca fawr. Y mae ychydig o dai yn wasgaredig ar ymyl y ffordd, gan mwyaf ar ein haswy—rhai o honynt yn waelion, ac yr ydym yn ofhi na oddef y gwirionedd i ni ddywedyd fod neb o honynt yn wychion. Gelwir yr ychydig dâi yma yn bentref Trefecca. Ond i ni, i ddarllenwyr y Drysorfa, ac i yn agos bawb sydd yn gwybod am yr enw, nid y ffermdŷ, na'r tai eraill, ond yr adeilad mawr yna sydd ar ein deheu- law, yn dangos ei ben rhwng ei lwyni bythwyrddion, yw Trefecca ; ac ar y fan lle y saif hwnyna y safai unwaith y tŷ lle y ganwyd Howell Harris. Yr ydym wedi bod amryw weithiau yn Nhaígarth. Arweiniwyd ni yno y tro cyntaf gan ein cyfaill hoff a pharch- edig, yr hwn oedd y pryd hwnw yn llywio yr Athrofa. Buom yno ychydig fisoedd yn ol. Yr oeddym yno ar nos- waith y daeargryn. Wedi cael ein cadw yn effro am oriau gan ddyhiryn meddw a floeddiai ar hyd yr heoL yr oeddym newydd fyned i gysgu cyn i'r cyffro ddyfod, ac felly aeth heibio heb i ni ei deimlo. Y mae Talgarth yn dref wedi ei hadeiladu, feddyliem, pan nad oedd brenin yn Sir Frycheiniog, a phan y gwnelai pob un fel y byddai da yn ei olwg ei hun. Y mae y tai wedi eu codi ymhob dull, ac yn edrych i bob cyfeir- iad, blith dra chymysg â'u gilydd, yn fawrion ac yn fychain, yn wychion ac yn waelion, "yn groes-un-groes, ar draws ac ar hyd, yn benrhydd ac yn benefer." Y mae y tafarn mawr lle y ciniawa boneddigion ar y naill du i'r dref, tra y mae y tafarn bychan lle y mae pobl fwy gostyngedig yn eistedd, yn wyneb y square, ac eto nid sguare mo honi ond triongl, ac nid triongl chwaith ond "twyn" i gynnal Sasiwn. Er y cwbl, neu yn hytrach o achos y cwbl, y mae yn lle tra picturesgue. Buasai Caerfall- wch yn ei alw yn "Ue ardebaidd;" ond