Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

COFNODIADAÜ A NEWYDDION. 341 yu barod, a bydd y gôst oddeutu £100.— Penodwyd cenadau i Glynnog, i ymddyddan á'r eglwys yno ynghylch gŵr ieuanc sydd yn dechreu pregethu, gyda bwriad i symud i le arall.—Bu sylw ar yr arholiad fu ar y gwŷr ieuainc yn Nghaernarfon. Daethant ymlaen yn llwyddiannus i gyrhaedd y nôd. Cafodd pob un o'r saith ryw gymaint dros y canol- bwynt oedd wedi ei osod iddynt; ac felly fe'u derbyniwyd yn aelodau o:r Cyfarfod Misol, ac yn bregethwyr yn ein gwlad. Eu henw- au yw, Thomas Jones Wheldon, Llanberis; Griffith Hugbes, Bangor; Thomas Gwynedd Roberts, Felinheli; Bobert Evans, Caernar- fon; Edward Lloyd, Cefnwaun; John Wil- liams, Beddgelert; a Robert Thomas, Hirael, Bangor. Maent oll wedi eu magu gyda chrefydd.—Bu sylwadau da ar ddirwest, ac annogaethau gwresog yn ei achos; a bydd eto yn ein Cyfarfod Misol dyfodol ymgais at ry w- beth er ei adfywio, ac enwyd personau tuag at gael rhyw gynlíuniau tuag at hyny.—Bu sylw ar ddyled ein capeli, ac annogwyd yn daer arnom i godi ati i dalu. Yn ngwyneb fod genym gymaint o gapeli newyddion yn helaeth a chostus, mae yn rhaid foä y ddyled yn chwyddo; ond er hyny, mae y nerth yn cymiyddu hefyd; nidrhaiíl llwfrhâu. Effaith y diwygiad diweddar yw hyn; a chan mai yr Arglwydd a roddes y diwygiad, fe rydd Efe gymhorth i dalu ei gôst. Byddwn ffyddlawn {m hyn o beth, canys gallwn gael cymaint o es wrth dalu y gôst ag oeddym yn ei gael yn y diwygiad. Ni raid i ni gadw yr account am yr arian a roddwn ; fe geidw Duw hwnw ei hun i'r geiniog. Mae achos crefydd yn siriol iawn ar Fynydd Carmel, oddeutu 100 o aelodau yn weithgar, fel âg un ysgwydd yn dwyn y gwaith mawr ymlaen, pawb yn cyd- weithio. £45 sydd o ddyled ar y capel, a hwnw yn /reehold am byth. Dangoswyd serch mawr at y cyfarfod hwn gan yr ardal yn gyffredinol. Gall cant o bobl yn unol â'u gilydd, ac yn zelog dros grefydd, wneyd llawer iawn o wasanaeth i Grist mewn ugain mlyn- edd. Ysbryd yr Arglwydd a fyddo yn eu plith! Cynnaliwyd Cyfarfod Misol Llanrug, Awst 8a'r9fed. Llywydd,—yParch. DavidJones, Treborth. Enwyd nifer o frodyr i fod yn ymddiried- olwyr ysgoldŷ Pen'rallt, Waenfawr, ac hefyd i hen gapel Ehydfawr.—Penderfynwyd fod Mr. O. Price, Glasgoed, i gael Arfon oll yn gylch i bregethu ynddo.—Hysbysai y cenad- on a fu yn Nghlynog fod yr eglwys oll yn dymuno ar i'r brawd ieuanc, Mr. J. Jones, gael dechreu pregethu, a rhoed dosbarth ys- golion Caernarfon yn gylch iddo.— Darllen- wyd cynllun newydd yr ordeinio o lythyr Cymdeithasfa Llanrwst; ac wedi cymeryd yr holl reolau o dan ystyriaeth fanwl, pender- fynwyd anfon i'r Gymdeithasfa nesaf i ddad- gan ein dymuniad am gyfnewidiadau yn rheolau 3, 4, a 5ed.—Enwyd nifer o weinidog- ion a diaconiaid i fyned i Gymdeithasfa Pwllheli, ac annogwyd cadw cyfarfodydd gweddi yn ei hachos, a gwneyd casgliad ati. —Ymddyddanwyd à Mr. H. R. Williams, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol.— Penderfynwydfod y cynnrychiolwyr i'r Cym- deithasfaoedd i'w dewis yn flynyddol o üyn allan, athrwy bleidlais dirgel.— Ymddyddan- wyd ar y priodoldeb mawr o wneyd pob ym- drech i gael tir freehold i adeiladu ein capeli arno, a phenderfynwyd anfon cais i'r Gym- deithasfa ar iddynt basio penderfyniad i'r pwrpas hwnw.—Darllenwyd a phasiwyd y penderfyniadau canlynol, pa rai a gynnyg- iwyd gan y cyfeisteddfod a enwyd i ystyried yr achos Dirwestol:—1. Fod y cyfarfodydd Dir- westol, tra yn ein capeli ni, i fod o dan arolyg- iaeth swyddogion eglwysig y Ue. 2. Ein bod yn dymuno ar y swyddogion eglwysig i ofalu am feithrin yr achos Dirwestol gartref,—pwr- casu llyfr i dderbyn enwau—cynnal cyfarfod- ydd Dirwestol yn achlysurol—gofalu am i'r achos gael ei ddwyn i sylw y gynnulleidfa, yr Ysgol Sabbothol, a'reglwys—asefydlu "Band ofHope" gyda'rplant. 3. Ein bod yndymuno ar bob pregethwr a gweinidog yn Arfon, ar nos y Sabboth olaf o bob mis, ar ol canu pen- nill, yn hytrach na darllen pennod faith, i neillduo a darllen ychydig o adnodau pwr- pasol, a chymeryd mantais oddiwrthynt í siarad am ddeng mynyd neu chwarter awr yn erbyn diotta, cyfeddach, a meddwdod, ac o blaid Dirwest. 4. Ein bod yn dymuno eto ar yr un brawd i gymeryd mantais o'r society ar ol yr oedfa i cìdangos i'r eglwys, ac yn arbenig i athrawon yr Ysgol Sabbothol, y dymunoldeb o fod iddynt hwy flaenori yn yr achos da hwn. Ymofyned hefyd a yw yr achos Dirwestol yn cael y sylw a ddylai yn y lle, ac yn neillduol a g}imelir y Band of Hope gyda'r plant. 5. Ein bod yn dyrnuno ar un o arolygwyr yr Ysgol Sabbothol, neu ryw frawd arall a ddewisa, i ddwyn y mater hwn i sylw yr ysgol ar y Sabboth dilynol, am ychydig fynydau, — ac annoger pob athraw i yraofyn yn ei ddosbarth pa nifer o honynt sydd yn ddirwestwyr, a chadwed yr ysgrifenydd gyfrif o hyny.—0. Y. Pe byddai gweinidog yn analluog, neu yn dymuno peidio siarad ar Ddirwest am y tro, gofaled y swyddogion am i hyn gael ei wneyd y Sab- bath canlynol. Dymunol fyddai i'r gweinid- og gael ei gymhell i wneyd hyn; ond os na chymhellir ef, gwnaed o gydwy bod heb ei gym- hell.—Caed hanes yr achos crefyddol yn y lle, wrth yr hyn y deallid fod golwg dra chysurus arno.—Hysbyswyd y cynnelir y Cyfarfod Misol nesaf yn Rhyd-ddu, Awst 29 a'r 30ain; a'r dilynol yn Llanllyfni, Hydref 3 a'r 4ydd. Gweinyddwyd yn gyhoeddus gan y brodyr canlynol:—Y Parchn. W. Jones, Llanllyfni; J. Phillips, Bangor; J. Pritchard, Amlwch; R. Hughes, Uwchlaw'r ffynnon; S. Roberts,. Bangor; T. Phillips, Hereford; a D. Jones, Treborth. Llcyn ac Eifionydd. Cynnaliwyd ein Cyfarfod Misol yn Nhre- madoc, Awst 8 a'r 9fed. Llywydd,—y Parch. Evan Roberts, Brynmelyn. Wedi y cyflawniadau arferol, ynghyd a gor- phen y casgliad cenadol, darllenwyd cyhoedd- iad y Parch. Abel Green o'r Deheudir. Ar ol hyn cafwyd sylwadau ar y Gymdeith- asfa nesaf yn Mhwllheli, gyda golwg ar yr anghenrheidrwydd am fod yn flyddlawn er hyrwyddo dygiad ymlaen y rhan allanol o honi. Enwyd amryw frodyr o Ddiaconiaid>