Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORPA. Rhif. CGXXXIX.] TACHWEDD, 1866. [Llyfr XX. %xmfyẁm u Jẃrtf&ìrmta. «GWRANDEWCH Y WIALEN", A PHWY A'I HORDEINIODD." MlCAH vi. 9. GAN Y PARCH. THOMAS REES, CRUGHYWEL. Yr ydym yn cyfarfod â'r gair "gwialen " droiau yu yr Ysgrythyrau sanctaidd. Ond y mae yn eithaf amlwg nad ydym i gysylltu yr un meddwl âg ef ymhobman y mae yn dygwydd. Mae gwahanol ystyron iddo. "Weithiau y mae i'w ddeall, mewn ystyr lythyrenol, am frigyn o bren, ac o bosibl, ffon; brydiau eraill mewn ystyr ffugyrol. Ac y mae yn ddigon eglur nad yn llythyr- enol, eithr yn ffugyrol, yr ydym i'w gymer- yd yn yr adnod ar ben ein hysgrif. Ond yr ydym yn cael nad yw gwìalen, eilwaith, yn iaith ffugyrol yr Ysgrythyr ddim yn golygu yr un peth yn wastad. Y mae yn dynodi gwahanol wrthddrychau ; a'r ffordd i gael allan pa beth y mae yn arwyddo mewu unrhyw le yw ymgynghori â'r cyd-destunau i weled y mater a drinir ynddynt; ac yn gyffredin nid oes nemawr anhawsder i benderfynu at ba beth y mae i'w gymhwyso. Yn y geiriau uchod, fel yn fynychaf, dynoda gosb neu gerydd ;—cosb yn gerydd ;—barnau tymmorol—trychin- eb gwladol. Gelwir hyn trwy droellymadr- odd arferedig yn " wialen," am y rheswm amlwg y defnyddir gwialen yn offeryn neu foddion i weinyddu cosb geryddol, yn deu- luaidd a chyhoeddus, gan dad ar ei blentyn, a chan yr awdurdodau y sydd ar drosedd- wyr mewn rhai amgylchiadau. Defnyddid y dull yma o gosbi dynion am wahanol droseddau o dan gyfraith Moses; neu yn hytrach fnangellu oeddid yn ei wneyd yn Israel, er mai gwialenod a ddefnyddir yn ein cyfieithiad ni. TJn o gosbedigaethau y gyfraith Rufeinig oedd curo â gwiail. Gan y defnyddir y gair gwîalen am ragor nag un peth yn ei ystyr gyffelybiaethol, dadleuir yn gryf gan rai mai am beth arall y dylid cymeryd y gair yma, sef am y Uwythau. Yr oedd gan bob un o lwythau Isratl gynt ei wial#n yn f»th o arwyddlun, | neu yn hjrtrach y blaenor, yn nôd o awdur- | dod. Gelwir eu hetifeddiaethau hefyd wrth yr enw hwn, am y mesurid hwy â gwialen. Trosglwyddai y gair y meddyl- ddrych deublyg hwn i'r Iuddew yn hollol naturiol. Oddiar hyn darllenir yr adnod yn wahanol gan y Rabbiniaid Iuddewig | gynt, a chan esbonwyr dysgedig diweddar, ! megys, "Gwrandewch, 0 lwythau, yrhwn sydd yn tystiolaethu." Heblaw hyn y mae yr adnod drwyddi draw, bob gair a chymal o honi, yn cael eu deall a'u cyf- ieithu yn wahanol iawn. Ond y mae holl gynnwysiad a rhediad y bennod yn cyttuno yn dda—llawn cystal, os nad gwell, â'r darlleniad cjrffredin a'r un arall a gynnygir, er, mae yn debyg, y goddef i gael ei chyf- ieithu fel arall yn hawdd. Gelwir y genedl i gyfrif yma, a bygythir hwy yn ddifrifol dros ben, gan yr Ar- glwydd trwy y prophwyd, â barnau tym- morol tost. Yr oedd yr Árglwydd fel hyn ynghylch dwyn allan ei wialen mewn cer- ydd. Yr oedd eisoes megys yn ei hys- gwyd uwch eu penau, neu oddidraw yn eu golwg. Yr oedd yn ei dangos yn ngwein- idogaeth y prophwyd, os nad mewn ffordd arall hefyd mwy effeithiol—yn weithredol. Neu yn ol jt iaith a ddefnyddir yma, yr oedd y wialen yn eu cyfarch—yn llefaru— yn traddodi cenadwri; ac yr oedd eisieu iddynt hwy ddal arni—cymeryd addysg mewn pryd, dychwelyd at yr Arglwydd mewn ymostyngiad edifeiriol am eu pech- odau ysgeler i'w erbyn, ac mewn ymroddiad i'w wasanaeth, fel y gallai eu harbed, fel y carai wneyd, yn lle eu curo hwy â hi, fel na byddai yn rhaid iddo ei dwyn hi arnynt, neu eu taro yn drymach. Dywedir yn y bennod, tua ei dechreu, fod cŵyn rhwng yr Arglwydd â hwy; ac mae yn appelio at y mynyddoedd a'r bryn-