Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSORFA. Rhif. OCLII.] RHA.GF7R, 1367. [Llyfr XXI. Y DIWEDDAR BARCH. JOHÎÍ PHILLIPS. Yhmî marwolaeth ein hanwyl frawd a ehyfaill, Mr. .Phiilips, wedi peri teimlad dwys a chyffredinol. Ba farw heb neb yn dysgwyl nac yn meddwl am ei ym- adawiad. Er f'od haul ei fywyd wedi pasio cylch canolddydd, ni thybiodd yr un o'i gyfeillion y buasai yn machludo raor gynnar. Mor ddiweddar yr oedd efe yn myned i mewn »c allan ymysg ei frodyr, heb ddim gostyngiad yn ym- ddangoa ir ei nerth, corfforol na medd- yliol—heb ben gwỳu, na gwyneb rhych- og, na llygad yn tywyllu, na llaw yn crynu—heb yr un argoel fod ei dymmor o weithgarwch a defnyddioldeb ar ben ! Ond, er ys rhai wythnosau bellach, y mae yu rhy wir fod ei le yma yn wâg. "Mae 'n brawd wedi gorphen ei daith, Ei lafur a'i waith yr uu wedd." Ac nid oes un o'i frodyr heb deimlo fod gweithiwr anhawdd ei bebgor wedi ei golli o'n plith. öyflawnodd efe ei ddydd- iau, yn ystyr oreu yr ymadrodd ; canys ni chaed hwynt yn weigion a diffrwyth. Er ei farwolaeth ef, nid yw ei ddylanw- ad a'i esiampl i farw. Wedi iddo ef ei hun fyned ymaith, mae ei goffadwriaeth yn gytnynrodd gysegredig ar ei ol. Mae yn dda genym ddeall y bwriedir dwyn allan gofiant Mr. Phillips mor fuan ag y byddo modd, yn llyfr destlus, gyda phigion o'i bregethau, ac amryw o'i ddarlithoedd. Nid ydym yma, gan hyny, am gynnyg rhoddi dim tebyg i fywgrafnad am ein cyfaill ymadawedig, ond yn unig cyflwyno i'n darllenwyr rai nodiadau ac adgofion am dano, yn benaf y rhai yn garedig a anfonwyd i ui, ar ein dyinuniad, gan frodyr a gaw- sant fautaÌ8 i ymgydnabyddu llawer âg ef, Ac yn gyntaf, cyflöuwn yma j llinellau a dderbyniasom oddiwrth hen gyfaill ei ieuenctyd,yParch Dr.Edwards,Bala:— Anwyl Gyfaill,—Yr wyf yn teiralo fy hun yn analluog 1 wrthod ysgrifenu ychyd- ig mewn atebiad ì'ch llythyr. Ond gan eich bod yri dysgwyl sylwadau oddiwrth amryw, mi feddyliwn mai gwell fyddai i mi gyfyngu fy hun at rai ffeithiau a.r yr wyf wedi cael niantais neillduol i wybod am danynt. Byddai yn hawdd i mi ddy- wedyd llawer atn fy nheimladau ; ond byddai hyny yn afreidiol ac anfuddiol. Pan oeddwn yn cadw ysgol yn Llan- geitho, yn y flwyddyn 1829, os wyf yn cofio yn iawn, daeth gŵr ieuanc yno, tua deunaw oed, cryf a glandeg yr olwg arno, a dywedcdd wrthyf ei fod yn meddwl dyfod i'r ysgol; a dyna y tro cyntaf i mi gyfarfod â John Phillips. Wrth ymddyddan âg ef, cefais ei fod yn dyfod o Bontrhydfeudigaid, ei fod yn ŵr ieuauc crefyddol, ac yn meddwí yn ddystaw am waith y weiuidogaeth. Dangosodd yn fuan ei fod wedi dyfod i Lan- geitho, nid i segura, oud i ddysgu. Yr oedd wedi bod cyn hyny, am ryw gymaint o amser, ond nid gyda llawer o gysondeb, yn hen ysgol enwog Ystradmeurig, yr hon oedd yn agos i'w gartref. Ac heblaw hyny, yr oedd wedi gwneuthur defuydd da o lyfr- gell oedd yn perthyn i gymydog iddo o'r enw Dafydd Morgan, os nad wyf yn cam- gofìo; nid y pregethwr parchus o'r enw hwnw a fu farw yno yn ddiweddar, oud dyn anghyhoedd, mewn amgylchiadau cy- ffredin, yr hwn oedd yn hoff o brynu a dar- llen y llyfran goreu mewa duwinyd liaeth yn Gymraeg a Saesoueg, fel y mae rhai eto y cyfarfyddir â hwynt yn annysgwyliadwy yn y manau mwyaf gwledig. Yr oedd yr olwg ar lyfrau Dafydd Morgan wedi effeith- io ar fy ughyfaill er yn blentyn ; oud cyn myned i Langeitho, yr oedd wedi darlíea cryn nifer o honynt, ac wedi trysori eu cym- nwys yn ei feddwl. Tua diweddy flwyddyn 1829, yrnadewaís îá A