Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEPA. Rhif. 553.] TACHWEDD, 1876. [Llyfr XLVI. PREGETH ANGLADDOL I'R PARCH. DAVID MORGAN, CEFN- COEDCYMER, A draddodwyd yn Xghapel Po?itmorlais, Merthyr Tydfil, SaVx)th, Awst 2Jain. GAN Y PARCH. THOMAS REES, MERTHYR. Mae ymadawiad ein cyfaill anwyl ac enwog o'n plith trwy angeu—y Parch. David Morgan, Cefn—yn hawlio oddi- wrthym gyfeiriad cyhoeddus fel hyn ato, a mwy neu lai o sylw arno. Mae y deyrnged hon o barch yn gyfíawn ddyledus iddo, ar fwy nag un cyfrif, oddiwrthym ni. Meddylier am ei gy- sylltìad agos â ni yn y dosbarth hwn, fel brodor o hono, ac yn yr hwn y treuliodd ei holl oes, ac y llafurìodd fwyaf o lawer, a'r poblogrwydd mawr a gyrhaeddodd yn ein plith, a'r hwn yr oedd mor haeddiannol o hono, ac, yn ychwanegol at hyn, ei fod yn gu iawn genym. Mae y cyfeillgarwch agos oedd rhwng llawer o honom âg ef, ac nid yn unig y parch, ond y serch dwfn a deimlid mor gyffredinol tuag ato, fel y dangosodd y nifer mawr a ddaeth ynghyd i'w angladd o weinidogion, diaconiaid, aelodau, a gwrandäwyr ein cynnuUeidf äoedd, a'r olwg oedd arnynt, yn gwneyd cyflawni y gwasanaeth yma heno yn beth holloí briodol, os nad yn ddyledswydd orphwysedig arnom. Yr oedd y dull anarferol y cyhoeddodd Mr. "W. Morris, Pant-tywyll, yr angladd yn fy nghlyw nos Sabboth diweddaf, yn fynegiad cywir o'n teimladau oll:— " Mae angladd yr anwyl, anwyl Mr. D. Morgan, Cefn, i fod yfory." Mae adsain i hyn trwy gylch lled ëang, ac nis gellir ei anrhydeddu yn ormod yn ein golwg. Mae genym awdurdod ysgrythyrol ddigonol dros wneyd peth fel hyn. Annogwyd y cristionogion Hebreig "Meddyìiwch am eich blaenoriaid, y rhai a draetha<?ant i chwi air Duw ; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Heblaw hyn, y mae yn rhoddi cyfle manteisiol i ddyfod â gwirioneddau pwrpasol ger bron, ac yn neillduol i wasgu sobrwydd marw at ein hystyr- iaethau, ynghyda'r anghenrheidrwydd am ffydd yn Nghrist, a byw yn y fath fodd mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, fel y byddom yn barod ar gyfer yr amgylchiad dyeithr a difrif- ddwys, erbyn y delo yr wys am danom ninnau. Ac yr ydym yn gyffredin mewn tymher meddwl, neu ansawdd calon, mwy ffafriol i dderbyn argraff oddiwrth hyn oll pan newydd golli rhai agos atom. Gwyddys yn dda fod. rhywrai bychain eu meddyliau, a chre- bachlyd eu calonau, anhawdd eu boddio, a pharod i bigo bai, hyd yn nôd_ er y gall rhai o honynt fod yn ddynion da, yn edrych yn ddrwgdybus ar gyf- lawniad fel hwn, ac yn ofni rhoddi gormod o le i'r dyn. Ac fe allai nad yw yn gwbl ddiberygl yn wastad i syrthio i'r amryfusedd hwn, gan fod gafael gref yn ein cyfeillion yn tu- eddu i'n bradychu i'w harfoli yn anghymedrol. Gobeithio, serch hyny, na fydd i mi, oddiar angerddoldeb fy nghariad tuag at ein gwrthddrych, a'r cyfrif mawr yr oeddwn yn ei wneyd o hono, syrthio i'r bai o ddyrchafu y dyn yn ffol, er cymaint fy edmygedd o 2 H