Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. clxxv.] GORPHENAF, 1845. [Llyfr XV. BWRIAD DUW MEWN PERTHYNAS I'R IUDDEWON. íVN O DDARLITH AE YR IUDDEWON, GAN Y PARCH. JAMES HAMILTON. NATIONAL SCOTCH CHURCH, REGENT SQUARE, LLUNDAIN. Pan y mae dinas fawreddog yn cael ei dym- chwelyd, ac i'r ymdywalltiad cyntaf o alar ddileu ymaith, naill ai y mae yn cael ei hail- adeiladu a'i hadfeddiannu yn heddychol, neu ei gadael a'i hanghofio. Yn y naill neu y llall o'r achosion hyn, un genedlaeth yn unig a deimla. Os cyfodir dinas newydd ar ad- feilion yr hen, yn gyffredin bydd i'r gorchfyg- wyr a'r gorchfygedig gyd-gorffi ynghyd, ac mewn rhyw oes ddyfodol byddant fyw yn gymysgedig, gan gyd-lawenhau ar dir a wlychodd eu tadau gyda gwaed y naill y llall. Pa Rufeiniwr yn yr oes bresennol a esyd at ei galon fod glaswellt yn cwhwfanu yny chwareufaoeddlle yr eisteddaieigyndadau hir-ddydd-hâf, ac y bloeddient, y chwarddent, ac y Úawenychent; neu, pwy a'i teimla yn bersonol fod mieri yn tyfu allan o'r allor holltawg ag y gosododd Romulus neu Numa eu haberth aflywodraethus. Mae cadwen unrhy wiaeth wedi ei thori; y genedl bresennol sydd wedi ei didoli yn hollol oddiwrth yr hen. Os ar y llaw arall, na oddefid i ddinas newydd gael ei chyfodi ar adfeilion yr hen, os byddai i'r ergyd a ddymchwelodd ei chaerau wasgaru hefyd ei thrigolion, yn gyffelyb i ddarnau chwilfriwìawg yr Avalanche, yn fuan yr ymdoddent, ac y byddent yn ronynau coll- edig yn ffrwd rhyw boblogaeth alluocach. Pa le mae y fynwes yn yr hon y deffry Caer- droia y curiad gwanaf o deimlad gwladgarol ? Pa genedl a dâl ei phererindod i safleoedd corslyd Niniveh a Babilon? Pa gyffröad, tu hwnt i dristwch ansylweddol ac anmhersonol, rhyw argrafBad cyffredin o brudd-dra, teimlad o erchylldod heb un cyffyrddiad o dynerwch, a alwyd eriocd allan yn "mysg colofnau dryll- iedig Palmyra, neu nythod creigaidd gwag Petra? Pa le mae y bobl y mae ganddynt yr hawl etifeddiaethawl o eistedd i lawr yn mvsg y cyfryw adfeilion ac arwyddluniau a arddangosant ogoniant ymadawedig—yr hawl i wylo o herwydd fod eu (tŷ wedi ei adael iddynt yn anghyfanedd ?' Pa le mae yr hen drigolion? Nid ydynt wedi eu Uwyr-ddilëu, eto maent wedi diflanu, wedi eu eladdu yn mysg y gwahanol genedlaethau, ac wedi ym- gymysgu y naül gyda'r llall, fel nad oes un cyffyr a all eu dadgyfansoddi a'u dwyn hwynt allan drachefn yn eu heglurder de- chreuol. Mae y tŷ yn anghyfanedd, eithr ni theimla neb fbd y tŷ yn eiddo ef; feíly ni alara neb o herwydd yr anghyfanedd-dra. Eithr y mae dinas a'i hachos yn hollol unigol a neillduol. Wedi ei hysbeüio, ei hanrheithio, ei llosgi, ei dinystrio hyd ei syl- feini, ei diboblogi, cludo i gaethiwed ei dinas- yddion, a'u gwerthu yno, a'u gwahardd drwy y cosbedigaethau llymaf nad ymwelent dra- chefn á'u haneddau genedigol: er bod deunaw canrif wedi myned heibio, a dyeithriaid yn barhaus yn sathru ei thir cysegredig; eto, mae y ddinas hòno yn faen-tynu llawer calon, ac yn deftroi o bryd i bryd bangfëydd o gynhyrf- iadau mor awchus a phe buasai ei syrthiad wedi bod yn ddiweddar. Ac o'r pryd hyny hyd yn awr y mae plant alltudiedig S'ion yn dyfod i ymweled â hi o bob gwynt y nefoedd, gyda llygaid yn wylo yn chwerw gan alaru o herwydd ei gweddwdod. Ni anrhydeddwyd un ddinas erioed fel hyn. Ni dderbynia yr un arall bererindodau o serchogrwydd oddi- wrth y degfed genedlaeth a deugain o'i phobl ysgymunedig. Nid allai yr un arall, ar ol canrifoedd o wasgariad, gynull ynghyd o dan ei hadenydd yr oll o'i theulu crwydredig. Ni feddiannodd yr un arall swyn digonol i gadw yn barhaus ei phobl yn wahaniaethol, yn y parthau pellenicaf, ac yn ngwyneb yr hudoliaethau galluocaf. Ac nid oes yn awr ond ei hunan a all gael ei hadboblogi yn ben- nodol gyda'r un hüiogaeth ag a'i gadawodd ddwy fil o flynyddoedd yn ol. Rhaid ceisio rheswm am y peth anghredadwý hyn, nid yn Jerusalem, eithr yn mwriadau Duw. Mae yma ddwy ffaith adnabyddus.»—^Bod yr Iuddewon eto yn bobl wahaniaethol, a bod Jerusalem eto ir Iuddewon yn anwvl a gwerthfawr. Pa beth ydyw yr achos diw- eddaf—y rheswm Dwyfol—am y fteithiau unigol hyn? Paham, pan y mae yr holl genedloedd gwasgaredig ereül yri ymgorffoti