Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEPA. Rhif. 676.] CHWEFROR, 1887. [Llyfb LVII. SYLWADAU AR EFRYDIAETH 0 DDUWINYDDIAETH. Mae yn hysbys i liaws o'n darllenwyr fod mwy nag un dosbarth yn yr oes hon yn edrych yn gilwgus ar dduwin- yddiaeth yn ei ôurf gyfundraethol. Naturiol yw i annuwiaid ac anffydd- wyr ei chollfarnu. Yn eu tyb hwy nid oes ganddi le i roddi ei throed i lawr; nid y w yn ymwneyd â ffeith- iau; nid yw ei gwrthddrychau yn meddu ar fodolaeth tu allan i'r dy- chymyg; gwybodaeth heb fater ydyw, yr hyn sydd gyfystyr â dyweyd nad yw yn wybodaeth o gwbl. Mae gwy- bodaeth yn anghywir pan yn grynhoad o syniadau cyfeiliornus am bethau sydd yn bod mewn gwirionedd; ond gau yn hytrach nag anghywir ydyw pan na fyddo ei gwrthddrychau yn meddu ar wir fodolaeth. Y cyfryw oedd cyfundraeth y Gnosticiaid yn y canrifoedd boreuaf. Er yn fawreddog mewn ymddangosiad, yr oedd mor ddisylwedd ag ydoedd o fawreddog, am nad oedd ond cyfundraeth o syn- iadau heb wir wrthddrychau yn cyf- ateb iddynt. Am mai cynnyrch dy- chymyg yn unig ydoedd, mae yr apos- tol Paul yn ei galw yn " ofersain," ac yn " wybodaeth a gamenwir felly." Yr hyn oedd Gnosticiaeth yn ngolwg yr apostol, hyny ydyw Duwinyddiaeth Gristionogol yn nghyfrif anffyddiaid a materolwyr. Ystyriant mai rhodio mewn cysgod, ac ymdrafferthu yn ofer, y mae y duwinydd ; nad yw ei olygiadau goreu, y rhai a lanwant ei fynwes âg addoliad a syndod, nam- yn dydd-freuddwydion, heb unrhyw hanfodau yn y byd oddiallan yn cyf- ateb iddynt. Oblegid hyny mae an- ffyddiaid, yn eu mynydau tyneraf, yn teimlo gwir dosturi at y myfyriwr duwinyddol; credant ei fod, dan ddy- lanwad rhywbeth tebyg i orphwylldra, yn gwario ei yni a'i amser ar gysgod- ion disylwedd a diwerth ; ond tra yn amlygu tosturi at yr efrydydd hunan- dwylledig ei hun, y maent yn coledd adgasedd at ei efrydiaeth ; oblegid, yn ol eu syniad hwy, y mae wedi camar- wain y rhan oreu o ddynolryw trwy gydol y canrifoedd ; y mae wedi hud- ddenu rhai o'r meddyliau mwyaf galluog, gan eu cymeryd ymaith ar ol y peth nid yw, oddiwrth bethau sydd yn feddiannol ar wir fodolaeth a gwir fuddioldeb. MeddyHer, meddant, pa faint fwy nag yw fuasai cyfoeth medd- yliol a chyrhaeddiadau gwyddonol dyn- olryw pe cadwesid Awstin rhag ym- ddyrysu uwch ben yr hyn a eilw yn "Ddinas Duw "—pe peidiasai Ansehn â'r dychymygion a gynnwysa ei Mono- logium a'i Proslogium—pe boddlon- asai Luther ar fod yn ddiwygiwr cym- deithasol, a thewi a son am gyfìawn- hâd trwy ffydd—ped arosasai Pascal gyda'i ymchwiliadau gwyddonol, a gadael i ryw offeiriad neu fynach o'r ganfed ran o'i athrylith i feddwl medd-