Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DETSOEFA Rhif. 678.] EBRILL, 1887. [Llyfr LVII. TERFYN TAITH YR ANIALWCH. Pregeth Angladdol a draddodwyd yn Nghapel Llanfaethlu, Món, Awst 23,1885. Ar yr achlysur o farwolaeth Mrs. Dayid Jones, merch i'r diweddar Barch. W. Robebts, Amlwch, GAN Y PARCH. EEES JONES, FELIN HELI, YB HWN YN MHEN Y TBI MIS A'l DILYNODD DBOS YB IOBDDONEN. Josüa iii. 3, 4 : " Ac a orchymynasant i'r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw, a'r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi, yna cychwynwch chwi o'ch lle, ac ewch ar ei hol hi. Eto bydded enyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur; na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodiwch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o'r blaen." Mae y Testament Newydd yn dangos fod y daith hon yn bortread o fywyd pobl Dduw, neu o'u taith trwy y byd hwn; taith tan arweiniad yr Ar- glwydd tua'r wlad a addawodd yr Arglwydd. Felly yr oedd yn rhaid iddynt wrth ffydd i gadw eu golwg ar yr addewid o hyd, gan ddilyn yr Arglwydd, a'i gyflawn ddilyn. Taith i'w profì oedd; yr oedd y bobl yn profi yr Arglwydd, a'r Arglwydd yn profì y bobl, fel y gwybyddent hwy ac y gwybyddai oesau y byd, yr hyn oedd yn eu calonau. Anffyddlawn a siomedig y trodd y rhan fwyaf o honynt allan, ond nid pawb a ddaeth- ant o'r Aipht trwy Moses. Dau sydd genym ni eu henwau wedi glynu, sef o'r rhyfelwyr a'r penau teuluoedd; ond diau fod yno lawer o bobi, yn wŷr a gwragedd, o'r rhai a ddaethant o'r Aipht wedi glynu. Heb. iii. 16: " Canys rhai, wedi gwrando a'i digiasant ef; ond nid pawb a'r a ddaethant o'r Aipht trwy Moses." Çyfnewidiadau oedd yn eu profi, oblegid dyna oedd y daith i gyd. Yr oedd cyfyngderau a gwaredigaethau felly, ac yr oedd bod dynion yn credu yn yr Arglwydd mewn cj'fyngderau, yn dwyn eucymer- iadi'rgoleuni. Deugainmlyneddfueu dydd prawf. Wrth ystyried y fath bwys oedd ynddo, nid oedd yn hir; ni threfnodd yr Arglwydd i daith neb fod yn hir; ei ddyben yw i weled pa beth sydd yn ein calon; felly cyffelybir ein hoes i ddiwrnod gweithio neu redeg gyrfa. Mae pawb o honom yn cael ein dwyn i ryw gysylltiadau sydd yn ein profì. Nid helbulon a chyfyngder yw profedigaeth pawb. Yn llyfr y Breninoedd yr ydyni yn cael mai ei godi i awdurdod a brofodd Hazael. Pan mae Duw yn dywedyd y fath greulondeb oedd yn ei galon, yr oedd yn anhawdd ganddo gredu; ond y cwbl a ddywedodd y prophwyd oedd, " Yr Arglwydd a ddangosodd i mi y byddi di yn frenhin ar Syria." Mae yr Arglwydd Crist yn desgrifio cymer- iad adgas iawn ynLuc xvi.; ondcyfoeth a chyfleusdra i wneyd daioni i'r tlawd oedd profedigaeth hwn. Nid oedd dim dymunol yn ei galon. Mae Elihu yn dywedyd, " Fy Nhad, profer Job hyd yr eithaf;" a diau y gwnawd hyny;