Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA Rhif. 679.] MAI, 1887. [Llyfr LVII. CYSTJR YR EGLWYS MEWN CAETHIWED. GAN Y PAECH. W. MOEEIS, LLANDUDOCH. Ezeciel i. 26: " Ao oddiar y ffurfafen yr hon oedd ar eu penau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorseddf aino, fel gwelediad maen saphir; ao ar gyffelybrwydd yr orsedd- fainc yr oedd oddiarnodd arno ef gyffelybrwydd megys gwelediad dyn." Gorchwyl rhy anhawdd ydyw esbon- io i foddlonrwydd y weledigaeth o'r hon y mae y geiriau uchod yn rhan. Y mae yn hawddach deall ei hamcan na'i gwahanol ranau. I ddeall ei hamcan, rhaid i ni osod ein hunain yn yr amgylchiadau ag oedd y prophwyd a'r genedl ynddynt ar y pryd. Yr oedd y genedl ar y pryd mewn sefyllfa wir druenus—yn para yn wrthryfel- gar, er fod rhan o honi wedi ei chaeth- gludo i Babilon er ys pum' mlynedd, ac Ezeciel, gydag eraill o'r goreugwyr, yn eu mysg. Cymerent eu twyllo gan brophwydi celwyddog, yn hytrach na gwrando ar Jeremîah, yr hwn oedd ar y pryd yn Jerusalem, ac yn gwneyd ei oreu i gael y rhai oedd yno, yn gystal a'r rhai oedd yn y caethiwed, i ymostwng i'r Arglwydd; gan eu rhy- buddio mai y canlyniad anocheladwy o'u gwrthryfelgarwch fyddai, i Jeru- salem gael ei chwbl ddinystrio, ao i'r holl genedl gael ei halltudio i Babilon, a'u cadw yno am láwer o flynyddau. Pan yn llawn o'r pethau hyn, a'i enaid ar suddo gan ofid a thristwch, y caf- odd ý prophwyd y weledigaeth hon. Ei hamcan blaenaf oedd ei alw a'i gymhwyso i fod yn genad dros Dduw yn Mabilon, fel yr oedd Jeremiah yn Jerusalem. Yr oedd o ran ei ffurf yn debyg, ac yn annhebyg, i weledigaethau eraill y mae hanes am danynt. Dywedir fod ei hannhebygolrwydd yn codi, mewn rhan, oddiar ei bod wedi cymeryd ei ffurf i fesur oddiwrth gerfddelwau a welsai y prophwyd yn Mabilon, ag oeddynt o anghenrheidrwydd wedi tynu ei sylw. Yr oedd i'r cerfddelwau afluniaidd hyny arwyddocâd yn eu perthynas â'r deyrnas hono—arwydd- ocâd nas gallasai fod o un cysur i blant y gaethglud. Ond gan nad beth oedd eu harwyddocâd yn eu perthynas â Babilon, cafodd y prophwyd weled mai yn llywodraeth Duw yr oedd hyny yn cael ei sylweddoli. Dyma lle yr oedd mawredd, doethineb, gallu, *c, mewn gwirionedd. Os oeddynt ar y pryd yn ddarostyngedig i Babilon, yr ■ oedd Babilon, er ei holl ymffrost, yn ddarostyngedig i hon. Gwelai fod hon yn cymeryd i f ewn yr holl gread- igaeth. Dangpsai y weledigaeth fod perthynas rhwng pob peth â gorsedd- fainc; a bod llywodraeth yr Hwn a eisteddai arni felly yn cyrhaedd hyd atynt hwy. Pan yn edrych ar y cor- wynt, yr hwn oedd yn Uawn o elfenau dinystriol, yn dyfod o'r gogledd—car- tref y barnedigaethau ; a'r creaduriaid rhyfedd yn ymsaethu allan o hono, fel