Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DETSOEÍÁ. Rhif. 681.] GOEPHENAF, 1887. [Llyfr LVII. AT EIN DABLLENWYE. Dysgwylib o bosibl ychydig eiriau o gyfarchiad i ddarllenwyr y Deysoefa, wrth ddwyn allan y rhifyn cyntaf o honi dan olygiaeth newydd. Dymuna y Golygydd presennol yn mlaenaf oll ddychwelyd ei ddiolchgarwch diffuant i'r Gymanfa Gyffredinol am ei dewis- iad o hono fel Olynydd cyntaf y diweddar hybarch Olygydd ; megys y cafodd y fràint hefyd o'i ddewis gan Gymdeithasfa y Gogledd yn y flwydd- yn 1874 i fod yn Olynydd cyntaf yr un gŵr parchedig fel Ysgrifenydd y Gymdeithasfa. Gwerthfawroga yr ar- wydd hwn o deimlad* caredig ei frodyr tuag ato, a'uhymddiried ynddo, uwch- law pob gwobr, ac yn nesaf at gymer- adwyaeth y Meistr mawr ei hunan. Gesyd werth mawr hefyd ar y cyfleus- dra o gael gwasanaethu am dymhor yn y ffurf hon o lafur, y Oyfundeb sydd mor anwyl ganddo, ao yn yr hwn y bu rhai o'i henafìaid yn enwau mor ddysglaer. Erfynia am gydymdeimlad a chyn- northwy ei frodyr yn ei ymdrech i gyflawni yr ymddiried hwn er budd a boddlonrwydd oyffredinol. Nis gall lai na theimlo yn awr, megys y gwnai wrth ymaflyd yn - nyledswyddau y swydd arall y cyfeiriwyd ati, mai nid peth bychan yw olynu gŵr o gym- hwysderau mor amrywiol, o fedr mor fawr, ao o brofiad mor faith, & diweddar Olygydd y Deysoefa. Ar yr un pryd, teimla yn benderfynol, os estynir iddo fywyd ac iechyd, na chaiff unrhyw ymdrech na llafur fod yn eisieu o'i du ef, i gadw i fyny gymeriad parchus hen Gyhoeddiad y Cyfundeb; ac hefyd i wneuthur pob ychwanegiad posibl at ei deilyngdod a'i ddef nyddioldeb. Tuag at gyrhaedd yr amcan hwn, hydera y caiff gyn- northwy calonog gohebwyr hen a newydd, o bUth ein haelodau, ein diaconiaid, a'n gweinidogion; ac y ceir o'r dosbarth olaf gynnorthwy ysgrifenwyr o alluoedd a dysgeidiaeth uchel sydd erbyn hyn wedi lluosogi cymaint yn ein Cyfundeb. Ac eto, wedi pob ymdrech ac ym- roddiad, rhaid cofio yr anmhosibl- rwydd diarhebol i foddhâu pawb. Canlyniad cyffredin yr ymgais i hyny yw peidio boddhâu neb. Ac felly tra na cheisiwn at y peth anmhosibl hwnw, yr ydym yn rhydd i ddyweyd yr ymdrechwn yn onest, ao hyd eithaf ein gallu, i roddi boddlonrwydd i bob dysgwyliadau rhesymol. Y mae dau berygl i'w gochel gyda golwg ar gyn- nwys a nodweddllênyddol y Deysobfa. Un perygl ydyw bod yn rhy ofnus i drafod cwestiynau mawrion ein hoes, —y pynoiau sydd yn hawlio myfyrdod *dwys dynion difrifol, ao i dderbyn y goleuni newydd sydd yn yr oes hon wedi oael ei daflu ar lawer o destynau ymohwüiad. Ymhlith y pethau hyn, y mae symudiadau a diwygiadau o bwys neillduol i ni fel Cyfundeb, ao;