Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Rhif. 682.] AWST, 1887. Llyfe LVII.] YSBEYD FFYDD YN YE EFENGYL. GAN Y PARCH. OWEN THOMAS, D.D., LIVERPOOL. (Y Cynghor (Charge) a draddodwyd ar Ordeiniad un-ar-bymtheg o Weinidogion, yn Nghymdeithasfa Llanerchymeâd, Mehefin 15, 16 a 17, 1887.) (Wedi ei ysgrifenu gan yr Awdwr.) 2 Cor. iv. 18: " A chau fod genym yr un ysbryd ffydd, yn ol yr hyn a ysgrifenwyd, Credais, am'hyny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hyny yn llefaru." Mae y geiriau hyn yn cael eu dwyn i mewn yma gan yr Apostol, er mwyn egluro yr ymroddiad, yr ymdrech, a'r gwroldeb a ddangosid ganddo yn y cyflawniad o'r weinidogaeth a ymddir- iedasid iddo, er yr erlidiau trymion a ddyoddefid ganddo mewn cysylltiad â hi. Yr oedd yr erlidiau hyny yn fawrion iawn. Y mae yr Apostol yn defnyddio y geiriau cryfaf er eu gosod allan; ac y mae yn sicr nad oedd un tuedd ynddo ef i'w gosod allan yn fwy nag oeddent: " Gan gylch-arwain— gan gludo o amgylch—yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu." 1 Yr wyf yn teimlo fy mod âg angeu fel angeu yr Arglwydd Iesu,—angeu treis- iol, angeu trwy ddwylaw dynion dryg- ionus ac annuwiol,—ymhob man yn fy nilyn. Y mae yr erlidiau mor drymion ac mor gyson, fel yr wyf beunydd megys ar fin trancedigaeth; ac eto, yn gwbl groes i amcanion fy erlidwyr, y mae y gwaredigaethau hy- nod ydwyf yn gael o ganol y fath ber- yglon, a'r oysur cryf wyf yn fwynhau er fy holl ddyoddefiadau, yn gwasan- aethu i mi fy hunan, ac i eraill a sylw- ont arnaf, i " egluro bywyd Iesu;" yn ddigon o brawf ei fod ef yn fyw, ac mewn gallu ac awdurdod i ofalu am danaf, ao i weini y fath waredigaethau rhyfedd i mi: "fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni."' Ac yna y mae yn myned rhagddo i egluro yn fanylach yr hyn a ddywedasid ganddo yn y geiriau blaenorol: " Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu." ' Yr y d wy f wedi dy wed- yd ein bod "yn cludo o amgylch yn y corff bob amser farweiddiad yr Ar- glwydd Iesu,"—farwolaethiad o nod- wedd gyffelyb i'r eiddo ef; ac felly mewn gwirionedd yr ydwyf: canys y mae y fath ymosodiadau yn cael eu gwneuthur arnaf fi, a'm brodyr eraiil, "y rhai ydym yn fyw;" y mae rhai eisoes wedi eu cymeryd ymaith; y mae Stephan wedi ei labyddio; y mae Iago wedi ei ladd â'r cleddyf; ond yr ydym ni eto " yn fyw." Eithr bywyd yn nghanol marwolaeth ydyw. Yr ydwyf mewn marwolaethau yn fyn- ych; beunydd yn marw; ac y mae y cwbl "er mwyn Iesu," o achos yr