Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEFA. Ehif. 685.] TACHWEDD, 1887. Llyfr LVIL] DUW FEL Y MAE YN AMLYGU EI HUN YN YE AMSEEOEDD HYN.* GAN ME. PETER EOBERTS, LLANELWY. Camgymeriad parod i amgylchynu dynion ydyw cymeryd golwg rhy gyf- yng ac unochrog ar ym weliadau y Bren- inmawr. Diau fod hyny i fesur yn an- poheladwy, yn gymaint a'i fod yn ahmhosibl i'r terfynol a'r amserol feddu syniadau ond tra anmherffaith am y diderfyn a'r tragywyddol. Y mae ei feddyliau Ef, a'i ffyrdd Ef, gymaint uwch na'n meddyliau ni a'n ffyrdd ni, fel y mae cymylau a thywyll- ẃch yn rhwym o'i amgylchu, er mai cyfiawnder a barn yw trigfa ei or- seddfa. " A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw ? A elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd ? Cyf- ffiwch a'r nefoedd ydyw, beth a wnei Jài ? dyfnach nag ufîern yw, beth a lelli di ei wybod ? " Ond heblaw yr ' anallu naturiol hwn, yr ydym yn ngafael anallu arall—anallu moesol— sydd yn ein hanghymhwyso i ffurfio syniadau addas am Dduw a'i lywod- raeth. Yr ydym wedi colli y cydym- deimlad hwnw â'r Dwyfol, yr ysbryd- ol, a'r pur, ag sydd yn anghenrheid- iol tuag at feddu dirnadaeth deilwng am wahanol ranau ei ffyrdd Ef. Ac am ben hyn oll, yr ydym mor gyfyng ac anmherffaith ein gwybodaeth, hyd yn nod am yr hyn sydd yn, ac wedi, cymeryd lle yn hanes ein byd ni ein * Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Misol Dyffryn Clwyá. hunain, fel nad ydym ar dir i bender- fynu gyda nemawr sicrwydd lawer o'r cwestiynau mwyaf pwysig sydd yn ymgynnyg i'r meddwl o berthynas i lywodraeth y Duw mawr. Fel mater o wybodaeth yn unig, fe ddylid bod yn gydnabyddus â hanes holl gen- edloedd y byd trwy yr oesoedd, a deall yr egwyddorion hyny sydd yn rheoli achos ac effaith mewn hanes- iaeth, yr hyn a ellir ei alw yn athron- iaeth hanesyddiaeth, cyn y gellir ffurfio barn deilwng gyda golwg ar lywod- raeth Duw ar y byd. Dylid " ystyr- ied y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd." " Canys er doe yr ydym ni ac ni wyddom ddim, o her- wydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear." 0 herwydd yr ystyriaethau hyn, nid wyf am geisio trafod yr hyn a elwir gan rai yn Ehagluniaeth Gyffred- inol, a Ehagluniaeth Neillduol, nac ychwaith am geisio esbonio na chy- soni yr hyn sydd yn ymddangos yn ddyeithr ac anghyffredin yn y llywodr- aeth Ddwyfol, rhag fy nghael yn euog, fel aml un o'm blaen, o dywyllu cynghor âg ymadroddion heb wybod- aeth. Mi a foddlonaf ar yn unig grybwyll, wrth fyned heibio, ryw ddwy neu dair o egwyddorion cyffred- inol, y rhai o'u hystyried yn ddylad- wy a allent gadw dynion rhag gwyro ymhell oddiar ganol llwybr barn. 2 H