Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhip X.] HYDREF, 1847. [Lltfb I a3gfograföak Y PARCH. R E E S MORGAN, Tal-y-llychau, Swydd Gaerfyrddin. Me. Rees Morgan ydoedd fab hjnaf Mr. Morgan Rees, o'r Capel-hîr, Tal-y- llychau. Ei dad ydoedd amaethydd parchus a chyfrifol yn y gymydogaeth: Yr ydoedd hefyd ynghyd a'i wraig yn bobl grefyddol, a Ue i obeithio eu bod yn dduwiol. Bu farw ei dad pan ydoedd gwrthddrych ein cofiant tua 12eg mlwydd oed. Tra y bu byw arferai fyned a'i blant gydag ef i foddion gras, yn ol y cyf- leusderau a'r manteision a geid yr amseroedd tywyll hyny. Dyledswydd dra phwysig yw hyn yn wir, a dylai rhieni fod yn fwy gofalus am dani o lawer iawn. Ond cafodd Mr. R. Morgan y fraint o fyned gyda ei dad a'i fam i'r manau cyfagos y ceid cyfle ambell waith i wrando rhyw un yn pregethu efengyl Crist yr hyn beth oedd y pryd hwnw yn dra anaml. Yn mhlith eraill o weision y Duw Gor- uchaf, byddai y Parch. D. Rowlands, Llangeitho, yn dyfod yn awr ac eilwaith yn achlysurol i le yn y gymydogaeth a elwir Glan-yr-afon-ddu-ganol i bregethu. Un Mrs. Grifliths oedd yn byw yno y pryd hyny. * Byddai Mr. Morgan Rees, yr hwn y daeth yntau hefyd i fod yn ffafriol i'r achos, ac yn dderbyniol i bregethwyr i'w dŷ, yn ìnyned yno i wrandaw, a byddai yn ofalus iawn ar fod ei deulu yn gylchynol yn cael y fraint o glywed yr efengyl. Felly yn eu plith byddai gwrth- ddrych ein cofiant yn cael ei ddwyn yno yn Uaw ei dad, pan ydoedd tua saith mlwydd oed. O hyny hyd onid ydoedd tua deng mlwydd oed, profai ryw flas mawr wrth wrandaw pregethau; teimlai y fath awdurdod weithiau yn y genadwri yn ymaflyd yn ei feddwl nes y byddai yn penderfynu bod yn fachgen da bid a fynai, a hiraethai yn fawr am gael yr un peth ag y gwelai eraill yn ei gael y pryd hyny yn y pregethau : a chafodd hefyd yr hyn a ddymunai i raddau mawr. Yr oedd ilylanwad grymus y weinidogaeth, y son am Iesu Grist a'i angeu drud, yn peri iddo wylo llawer ; a meddyliai wedi iddo gael hyn ei fod yn ddedwydd iawn. Ond nid hir y bu gelynion dedwyddwch dyn heb ymarfogi yn erbyn y teimladau melys hyny; gyrid ef weithiau i ddigalondid pan na chaffai brofi y rhyw beth melus hyny yn y bregeth. Bryd arall, pan y caffai ef, byddai ganddo feddwl go fawr am dano ei hun, ac felly daeth balchder, ammheuaeth, ac anghrediniaeth i mewn ; ac felly o radd i radd, gyda ei fod yn tyfu mewn oed, ac amgylchiadau yn hytracli yn ffafriol i'w elynion ysbrydol, colli ei dad duwiol a gofalus, &c, daeth i fod yn lled ddifater am ypregethau; hudwyd ef gan lygredigaeth ei natur, a thwyîl ei galon ei hun (o'r hyn yr oedd y pryd hyny yn dra anadnabyddus); tueddwyd a gosodwyd ef ar ffordd nid oedâ dda—ymlithrodd i fysg cyfeillion * Gwraig gyfrifol, gyfoethog, haelionus, a duwiol iawn, oedd Mrs. Griffiths. Dangosodd yn ei hywyd lawer o garedigrwydd ì'r achos goreu, trwy fod ei thỳ yn agored yn wastad i lettya a diwallu lliaws mawr o'r rhai a fyddai yn myned ac yn dyfod o bell i Langeitho yn fynych i wrandaw yr efengyl, ac i addoli. Y mae ei charedigrwydd hefyd yn dyfod ger bron o newydd unwaith bob blwyddyn, ac felly i barâu y mae'n debyg hyd ddiwedd y byd. Rhoddodd mewn gweithred briodol dŷ a thyddyn o dir o'i heiddo, gwerth ^6'50 yn y flwyddyn, er mwyn i'w ardreth blynyddol, hyd at £5, i gael ei rhanu rhwng tlodion pum' society perthynol i'r Methodistiaid Calfin- aidd; pedair o ba rai sydd yn y cymydogaethau hyn, a'r llall yn Sir Aberteifi ; a'r £5 gweddill i'w rhoddi tuag at addysg i blant y cyfryw dlodion yn y naill fan a'r llall, yn gylchynol hyd ddiwedd amser. Cyfres Newydd. b b