Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. 540.] HŸDREF, 1875. [Llyfb XLV. NERTII Y WEINIDOGAETH. CrNGHOR A Dr A.DDODWYD YN YR ORDEINIAD YN Y BALA, MeHEFIN 17, 1875. GAN Y PARCH. J. HUGHES, LIYERPOOL. RHAN I. Anwyl frodyr : Pedair blynedd a thri- ugain yn ol, ar yr un rois ac yn yr un lle, yr oedd wyth o bregethwyr yn cael eu hordeinio,fel chwithau heddyw,i holl waith y weinidogaeth. Yr oeddent hwy oll yn ddynion profedig gan Dduw, ac yr oedd rhai o honynt yn wŷr o nerth mawr. Mor ddofn a chyffredinol oedd yr argraff a adawsant ar eu cydgenedl, fel na arferem ormodiaith pe dywedem na fuasai cyfiwr ein gwlad, o ran gwyb- odaeth, moesoldeb, a chrefydd, yr hyn ydyw yn yr oes bresennol, oni buasai am eu hymgysegriad hwy i waith eu gweinidogaeth. Pe dewisasent ryw orchwyl arall heblaw pregethu, neu pe cymerasent y weinidogaeth fel ail beth, heb roddi iddi ddim ond gweddillion eu meddyliau ac ambell awr hamddenol o'u hamser, mae yn eicr na welsid fawr o'u hôl ar grefydd eu gwlad. Claddesid eu henwau yn ebrwydd ar ol eu cyrff. Mae dwysder yr argraff a wnaethant, i'w briodoli i'w hymroddiad ffyddlawn, dan anfanteision mawrion, i'r un gor- chwyl o bregethu. Nid wyf yn deall fod mwy nag un o honynt wedi cyflawni gorchestion ar faes llênyddiaeth; a'r un hwnw oedd Mr. Jonea o Ddinbych. Ond yr oeddynt oll yn bregethwyr o ymroddiad diflino ; yr oedd gwaith eu swydd wedi cymeryd meddiant o'u cyd- Xbod a'u calon ; ac am un o honynt, . John Elias, y cyfryw oedd angerdd- oldeb ei ysbryd, ac amrywiaeth a dys- gleirder ei ddoniau, fel y teilynga gael ei restru ymysg pregethwyr blaenaf unrhyw eglwys mewn unrhyw wlad. Yr oedd eu pregethiad hwy, fel yr eiddo amryw eraill o'u rhagflaenoriaid a'u holynwyr, yn cael ei nodweddu gan un rhagoriaeth arbenig—nerth, yr hyn yw rhagoriaeth uchaf y weinidogaeth. Mae y rhagoriaeth hwn, arno ei hun, pe gallai fod felly, yn well nag a fyddai amryw o ragoriaethau eraill hebddo. Elfenau pwysig o ragoriaeth yn y weinidogaeth, mae yn sicr, ydyw drych- feddyliau sylweddol, a chwaeth goeth ; ac erbyn hyn y maent yn elfenau an- hebgor yn y weinidogaeth yn Nghymru. Eto, o ran pwysigrwydd a gwerth, nis gelllr eu cystadlu â'r elfen o nerth. Anfynych, yn wir, y ceir gwir nerth ar wahân oddiwrthynt hwy. Gan mai nerth yn gweithio ar feddwl ydyw, ac yn gweithio arno mewn modd cyfreith- lawn, mae yn rhaid y triga rhai o'i elfenau yn meddwl—^yn intellect—y pregethwr, yn gystal ag yn ei ysbryd. Eto, er nas gellir ysgaru gwir nerth oddiwrth allu a chyrhaeddiadau medd- yliol y pregethwr, y mae yn amlwg y gallant hwy fod lle nad oes nerth; ac y mae yr un mor amlwg nad yw y naill a'r llall i'w cael yn wastad mewn cyfar- taledd â'u gilydd. Mae hyn yn wir am rai o'r hen bregethwyr : yr oedd nerth eu hymadrodd yn llawer mwy nag oedd eu gwybodaeth; eu gallu i drin dynion yn rhagori yn anfesurol ar eu gallu i drin cwirionedd; eu dawn i wresogi y 2b