Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. RHIP. 541.] TACHWEDD, 1875. [Llyfr XLV. NERTH Y WEINIDOGAETH. Ci'NüHOR a Driddodwtd yn yr Ordeiniad yn y Bala., Mehefin 17, 1875. GAN Y PARCH. J. HUGHE3, LIYERPOOL. Ehän II. II. ELFENarallonerth yn ngweinidog- aeth yr apostol oedd ei mater: "tystiol- aeth Duw ;" " Iesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio." Ac yr oedd ei fater yn penderfynu ei ddull, fel y mae y dull yn fynych yn penderfynu y mater. Mae gan wirionedd mawr ddylanwad o'r fath ddwysaf ar y meddwl mawr sydd yn aros mewn cymundeb âg ef. Nid oes dim ond gwirionedd mawr yn ei osod ar ei lawn egni, yr hyn a welir yn amlwg yn yr apostol Paul. Yr oedd mater ei weinidogaeth ef yn meddiannu ei ysbryd i'r fath raddau nes deffroi ac awchlymu ei holl alluoedd, a'u dyrchafu i'r graddau uchaf o nerth. Meddwl oedd ei feddwl ef heb yspeidiau o eiddilwch yn perthyn iddo. Yr oedd felly mewn rhan ar gyfrif ei fywiog- rwydd a'i ỳni naturiol. Yr oedd felly hefyd mewn rhan yn rhinwedd y ddawn o ysbrydoliaeth, yr hon a'i goleuai, ac a hyrwyddai ei weithrediad ar y gwirion- edd yr oedd i'w ddysgu. Ond yr oedd felly yn benaf am fod ei galon wedi ei meddiannu gan gariad at y gwirionedd. Yr oedd " y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu" yn ymddangos iddo mor ogoneddus ac mor bwysig fel ag i dynu allan arno holl ymadferthoedd ei feddwl. Nid oes dim a gyffry holl enaid dyn o'i ddifaterwch, ac a awchlyma ei holl alluoedd, fel y gwna gwirionedd mawr; a'r fantais fwyaf i feddwl ac ymadrodd pregethwr ydyw aros yn hir mewn cymundeb âg ef. Ond er fod mater pregethiad yr apostol yn gyfryw ag i osod ei holl alluoedd ar eu llawn egni, eto nid fel meddyliwr gwreiddiol neu athronydd dyfnddysg y dymunai efe ymddangos o flaen ei wrandäwyr. Nid crëawdwr damcaniaethau newyddion ydoeid ; ni fu gwreiddioldeb erioed yn amcan ganddo ; ac er fod ei ymadrodd yn cael ei roddi ar dân gan yr eirias o deimlad o'i fewn, eto nid oedd dim ymhellach o'i feddwl na chydffurfio â ffasiynau areithyddol y dydd. Ei swydd oedd mynegu tystiolaeth ; hysbysu yr hyn a dderbyniasai gan yr Arglwydd Iesu ; adrodd ffeithiau bywyd ac angeu yGwaredwr. Ac mewn cydnabyddiaeth helaethach nag a feddai eraill âg ystyr ffeithiau diammheuol tystiolaeth Duw y deuai maint ei alluoedd i'r golwg, fel y mae gallu meddyliol y pregethwr neu y duwinydd eto yn ymddangos yn y gwaith o ddwyn allan yr hyn sydd yn gorwedd yn y dystiolaeth, yn hytrach nag mewn llunio damcaniaethau am- mhëus o'r tu allan iddi. Y meddwl a fedd ddylanwad dwys ar feddyliau eraill ydyw y meddwl sydd wedi ei feddiannu yn llwyr gan wirion- edd mawr. Mae nerth Duw yn trigo yn Nuw ei hun. Nerth dyn, dyfod iddo oddiallan y mae ; a nerth meddwl dyn ydyw gwirionedd gwrthddrychol. Y meddyliau mwyaf gwreiddiol ydjrw y rhai sydd yn sylwi yn fwyaf astud ar ffeithiau oddifewn ac oddiallan. Y gwreiddloldeb hwnw sydd yn diystyru 9b