Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. 542.] RHAGFYR, 1875. [Llyfr XLV. MAWREDD YR YMOSTYNGIAD DW7F0L. GAN Y PARCII. J. REE3 OWEN, PENFRO. 2 Cronicl vi. 1S: " Ai gwir yw y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear ?" Cyfeiriad uniongyrehol y gofyniad hwn o. eiddo Solomon, y mae'n aml wg, sydd at breswyliad y gogoniant—yr arwyddlun o'r presennoldeb Dwyfol, rhwng y cerubiaid ar y Drugareddfa yn y cysegr. Dy wedir yn niwedd y ben- nod ílaenorol f'od cwmwl y gogoniant eisoes wedi llanw y tŷ. " Yna y llan- wyd y tŷ â chwmwl, sef tý yr Arglwydd, fel nad allai yr offeiriaid sefyll i wasan- aethu gan y cwmwl; o herwydd gogon- iant yr Arglwydd a lanwasai dŷ Dduw." Ac y mae Solomon yn gofyn, A erys y gogoniant hwn ? Y mae yn gofyn hyn, nid mewn ysbryd anghrediniol, ond mewn teimlad o syndod, ac er mwyn deffro yn yr holl gynnulleidfa feddwl dyrchatedig am fawredd ymostyngiad y Goruchaf. Y mae yn debyg fod y gogoniant wedi hir ymadael o babell y cyfarfod, ac nad oedd neb o'r rhai oedd yn byw y pryd hwnw yn cofio dim am dano. Ymadawodd, gellid meddw], yn nydd- iau Eli, pan y cymerwyd arch y dyst- iolaetb ymaith gan y Philietiaid o Siloh, ei hen gartrefle, lle yr oedd wedi bod am tua phedwar can' mlynedd ; o her- wydd cawn fod gwraig Phinees, mab Eli, pan ddaeth y newydd fod y Phil- istiaid wedi dal yr arch, yn galw ei mab, yr hwn a anesid y pryd hwnw, Ichabod, gan ddywedyd, " Y gogoniant a ymadawodd o Israel; canys arch Duw a ddaliwyd." Ac at yr un amgylchiad y mae y Salmydd yn cyfeirio pan y mae yn dywedyd, "Gadawodd Efe dabernacl Siloh, y babell a osodasai efe ymysg dynion ; a rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a'i brydferthwch yn llaw y gelyn." Nid rhyfedd felly i Solomon, pan y gwelodd y gogoniant yn dyfod yn ol drachefn i'r tŷ newydd a adeiladasai efe, a'r cwmwl yn llanw y cysegr, dòri allan mewn synäod i ofyn, Ai gwir hyn ] A all peth mor fawr fod yn ffaith ì Ond ganrifoedd ar ol hyn, gwelwyd amlygiad rhyfeddach a mwy gogonedd- us nahwn. Gwelwyd y Duwtragywydd- ol, nid yn unig yn rhoddi amlygiad o'i bresennoldeb ar y drugareddfa,—nid yn unig yn trigo ymhlith dynion, ond wedi cymeryd natur dyn, yn Dduw- ddyn, neu Dduw yn y cnawd. Ac yn yr olwg ar hyn, gellir gyda mwy o briodoldeb nag erioed ofyn y cwestiwn hwn, "Ai gwir yw y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear ]" Ac er, hwyr- ach, nad oedd Solomon yn benodol yn rhagweled dyfodiad yr Émmanuel pan yn llefaru y geiriau, gellir yn briodol eu cymhwyso at hyn ; ac wrth wneuthur hyny y maent yn derbyn ystyr uwch nag erioed o'r blaen. Edrychir arnynt felly fel yn cyfeirio at yr amlygiad mawr hwn hefyd: ymddangosiad y Mab yn y cnawd. Felly y mater a sylwir arno oddiwrth y geiriau ydy w:— Mawredd ymostyngiad Duw yn pres- wylio gyda dyn ar y ddaear. I. Y mae mawredd yr ymostyngiad yn dyfod i'r golwg yn eglur os ystyriwn ni ddau beth: iselder cyfiwr dyn, tc uchder gogoniant Duw. Edrychwn am ychydig ar y pcth 9 i