Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSOEFA. Rhif. 565.] TACHWEDD, 1877. [Llyfr XLVII. SYLWADAU AR BREGETHU HUNAN A PHREGETHU CRIST. GAN DR. EDWARDS. 2 Corinthiaid iv. 5: " Canys Did ydym yn ein pregethn ein hunain, ond Crist Iesu, yr Arglwydd ; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu." (Parhâd o tu dal. 365.) Y mae clod dynton nid yn unlg yn beth na ddylem ei geisio trwy ym- ddangosiad gwag, ond yn beth na ddaw yn y ffordd hono er et geisio, neu os daw, nas gall fod o hir barhâd. Y mae yn ammheus a ddaw clod o gwbl wrth ei gelslo yn uniongyrchol, hyny yw, wrth ei wneuthur yn brif nôd unrhyw weithred ; oblegid i'r graddau y gwelir fod clod yn ddyben, i'r graddau hyny y mae y gweithredydd yn syrthio yn fyr o gyrhaedd ei amcan. Y mae yn hysbys am y llyfrau sydd wedi cael derbyniad cyffredinol, ac wedi ennill mwyaf o anrhydedd i'w hawdwyr, iddynt gael eu hysgrifenu gan ddynìon' oedd yn meddwl am tôd uwch na hwy eu hunain. Ni ofalodd Homer am ddyweyd wrthym pwy na pha beth ydoedd ; ac y mae llawer yn dadleu y dyddiau hyn na fu y cyfryw ddyn erioed, ac nad yw y caniadau sydd yn myned dan ei enw ond gwaith lliaws o yBgrifenwyr wedi eu rhoddi at eu gilydd gan eu holafìaiô. Ychydig a feddyllodd Bunyan am enwogi ei hun pan yn ysgrifenu "Taith y Pererin" yn y carchar. Dichon fod parch y rhai goreu o'i frodyr yn ymddangos i'w feddwl weithiau, fel yr enfys yn y pellder, i'w galonogi. Er hyny nis gallasai ddychymygu y buasaí y Uyfr nwnw yn cael ei gyfìeithu I gynifer o leithoedd, a'i werthfawrogi gan y dysg- edig a'r annysgedig. Ond ysgrifenodd am nas gallasai beidio, nid i enwogi ei hun, ond i wneuthur Ues i'r cych bychan o bobl gyffredin oedd yn debyg o ddarllen ei waith. Nid oes neb yn gwneuthur Uawer o les trwy unrhyw waith ond y rhai sydd yn teimlo í'od rhaid wedi ei osod arnynt i gyflawni y gwaith hwnw. Pan oedd Luther yu dechreu, nid oedd ganddo ddim i'w ddysgwyl ond anmharch ac erUdigaeth, oerfelgarwch oddiwrth gyfeiUion, a gwg oddiwrth fawrion y ddaear. Ond ym- daflodd i'r frwydr yn nerth ei Dduw, oddiar deimlad o ddyledsw'ydd. Felly am y Diwygwyr yu Nghymru : mae yn wlr iddynt weled Uwyddiant ar en llafur i raddau helaeth ; ond nid oedd hyny yn y golwg wrth gychwyn, dim ond anmharch a phob math o wrth- wynebiad. Pe buasent yn ceisio gogou - iant iddynt eu hunain, buasent yn aros lle yr oeddynt; ond yr oedd anghen- rhaid wedi ei osod arnynt. Ac y mae pob gwlr welnidog yr efengyl yn yr oes hcn yn meddu rhyw gymaint o'r un ysbryd. x mae yr ystyriaeth hon yn ein harwain at rywbeth mwy eto, ac yn gosod o'n blaen ẁaith mwy anhawdd na'r ddyledswydd nacäol o beidio ceisio parch a chlod fel prif nôd ein bywyd. Y mae yn galw arnom i ddyoddef anmharch ac anghlod. Mae yn wir X 11