Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEFA. Ehif. 668.1 MEHEFIN, 1886. [Llyfr LVI. PREGETH A DBADDODWYD YN NGHYFAEFOD MISOL BBYCHEINIOG, GAN Y PAECH. J. WATEINS, GORWYDD. Er coffadwriaeth am y brawd anwyl, y Parch. Daniel Jones, Rhaiadr, yr hwn a ddewiswyd yn Gadeirydd Cymdeithasfa y De yn Llanelli, Awst diweddaf, ond a fu farw yr 28ain o Ionawr, heb gyflawni ei swydd ond yn unig mewn un Gym- deithasfa. Malachi ii. 6: " Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau; mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drôdd efe oddiwrth anwiredd." Fel y danfonwyd y prophwydi Haggai a Zechariah yn amser Josua a Zoro- babel i geryddu y genedl o herwydd eu hwyrfrydigrwydd gydag adeiladu y deml, felly y danfonwyd y prophwyd Malachi ymhen blynyddau ar ol hyny at yr un genedl, yn amser Ezra a Nehemiah, i'w hargyhoeddi o'u hym- ddygiadau annheilwng gyda golwg ar wasanaeth y deml, a'u gwaith yn ym- gymysgu mewn priodasau â'r cenedl- oedd o'u cwmpas. Yr oedd yr Iuddew- on mewn sefyllfa ddirywiedig iawn yn amser y prophwyd hwn. Yr oedd hyd yn nôd yr offeiriaid, y rhai a ddylasent fod o fendith i'r genedl drwy eu bywyd pur ac ymroddedig, yn euog o ddirmygu eu Duw, ac o lygru y rhai a ddelent i gyffyrddiad â hwynt, drwy gyflawni gwasanaeth tý Dduw mewn modd dibris a dioglyd. Ac o ganlyniad cawn yr Arglwydd yn nechre y bennod hon yn bygwth ymweled â hwynt mewn modd difrifol iawn os na ddiwygient yn fuan. " Oni wrandewch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i'm henw i, medd Arglwydd y lluoedd, yna mi a anfonaf felldith arnoch chwi, ac a felldithiaf eich bendithion." Ond yn yr adnodau canlynol rhoddir ar ddeali i ni mai amcan yr Arglwydd yn eu bygwth, fel y gwnai, oedd eu meddyginiaethu, fel y byddai i'w gyfammod Ef â Lefi, gyda golwg ar yr offeiriadaeth, bar- hâu. Darfu i'r cyfammod hwn â Lefi gael ei adnewyddu gan yr Arglwydd ar jr amgylchiad nodedig hwnw pan yr amlygcdd Phinees y fath eiddigcdd dros ogoniant ei Dduw yn achos y rhai hyny a ymgyfeillasent â Baal- Peor. Boddlonwyd yr Arglwydd i'r fath raddau gan ymddygiad Phinees ar yr amgylchiad hwn, fel y dywed- odd wrth Moses, " Phinees,t mab Eleazar, mab Aaron yr offeiriad, a drôdd fy nigter oddiwrth feibion Israel (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg), fel na ddyfethais feibion Israel yn fy eiddigedd.^ Am hyny dywed, Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfammod o heddwch. A bydd iddo ef, ac i'w had ar ei ol ef, ammod o offeiriadaeth dragywyddol, am iddo eiddigedu dros ei Dduw, a gwneuthur cymmod droB feibion Israel." Ac am