Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEFA. Ehif. 672.] HYDEEF, 1886. [Llyfr LVI. DIWEDDAE OLYGYDD Y DEYSOEFA. Pe na buasem yn ymwybodol o'n han- fedrusrwydd i weithio garlant gyw- reinbleth deilwng i'w dodi ar fedd di- weddar olygydd y Drysorfa, dì rodd- asai dim fwy o brudd-bleser i ni na gwneuthur hyny. Er i ni ymwneyd gryn lawer âg ef, ac nad ydym yn cofio amser pryd nad oedd Mr. Eoger Edwards yn rhan o'n bywyd, ymddengys yn dipyn o hyfdra mewn un cymharol ieuanc gyfodi megys i draddodi eifuneraloration yn nghlyw- edigaeth ei gyfoedion, a'r rhai a fuont yn myned i mewn ac alian g}dag ef o'r dechreuad. Yr anrhydedd hwn ni chymerasom arnom ein hunain, ond mewn ufudd-dod yn unig i gymhelliad taer gofalwyr y Drysorfa yr ydym yn ysgrifenu y Uinellau hyn. Er pan gymerwyd ein hybarch dad oddiwrthym, mae cymaint wedi eiddy- weyd a'i ysgrifenu arno fel, o'i iawn ddefnyddio, na fydd llawer o berygl i ni, ar y naill law, orliwio na gorbrisio ei dalentau, ei lafur a*i gymeriad, fel ag i gynnyrchu hyd yn nod y wên leiaf ar wyneb y mwyaf eiddigeddus; nac, ar y llaw arall, ddyweyd dim i friwio y tyneraf o'i edmygwyr. Afreidiol ydyw dyweyd fod i Mr. Edwards edmygwyr lawer iawn, nid yn unig yn nghorff y Methodistiaid, ond ymhlith pob en- wad a phlaid yn Nghymru. Yr oedd Eoger Edwards, yr Wyddgrug, yn un o'r enwau mwyaf adnabyddus a phar- chus yn y byd Gymreig. Ac nid ydyw dynion mor hurt ag edmygu, a phar- hâu i edmygu, neb oni fydd ynddo rywbeth gwerth ei edmygu. Cenfydd y dylaf, ond iddo cael digon o amser, waelod ysgrepan yr ymhonwr. Ehaid i'r hwn a all ddal am 76 o flynydd- oedd edrychiad craff, trychwiliol, y cyhoedd, gelynion a chyfeillion, pell ac agos, heb waethygu, fod yn meddu yr elfenau a berchenogir gan ragorol- ion y ddaear. Gan nad beth a fedd- ylio yr aelod yma neu acw o Young Wales, mae yn rhaid fod yn niweddar olygydd y Drysorfa ryw elfenau nad ydyw Duw yn eu gwastraffu bob dydd ar bawb, neu ynte rhaid i ni gredu fod y Cymry yn dechreu heneiddio a myned i'w dotage. Ond prin y myn- tumiai y mwyaf aiddgar o edmygwyr Mr. Edwards ei fod yn ddyn mawr yn ngwir ystyr y term; ac yr oedd Mr. Edwards ei hun yn rhy fawr i goleddu syniad felly am dano ei hun. Ac eto efe a fedodd gynhauaf mawredd, ac a gasglodd i'w ysguboriau ffrwythau na cheir yn gyffredin ond yn ysguboriau ac ydlanau meibion athrylith. Mae y ffaith hon yn un ryfedd, ac nid hawdd, hwyrach, ydyw rhoddi cyfrif am dani. Pan ddaw yr adeg i ysgrif- enu bywgramad Mr. Edwards—ac ni a hyderwn na hir esgeulusir hyny—a phan eistedda y bywgraffydd wrth ei fwrdd yn ei fyfyrgell i gasglu ei ddefn- yddiau at eu gilydd, ac i elfenu cym- eriad ei wron, dychymygwn ei weled yn arddangos tipyn o benbleth. Buan y cenfydd fod oes Mr. Edwards ynglýn â Methodistiaeth yr hanner canrif diweddaf yn un hynod o ddygwydd- fawr. Ac eto, wedi i'r bywgraffydd edrych yn graff, gonest, a diragfarn yn myw Uygad enaid Mr. Edwards— os goddefir i ni ddyweyd felly—wedi iddo geisio mesur a phwyso ei alluoedd deallol a maint ei athrylith, bydd raid iddo, ni a gredwn, ddyfod i'r pender- fyniad nad all efe, yn gydwybodol, ei 2 E