Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

x dhy/soihfa. Bhif. 673.] TACHWEDD, 1886. [Llyfr LVI. JOHN BUNYAN.* Gellir rhanu dynion cyhoeddus pob gwlad i dri dosbarth gyda golwg ar eu coffadwriaeth ar ol marw. Y dos- barth cyntaf yw y rhai sydd yn llythyrenol yn gwneyd eu marw- nad yn eu bywyd, ac yn gosod y marmor ar eu bedd; oblegid os na wnânt hwy hyny, ofer dysgwyl i neb geisio parhâu eu coffadwriaeth ar ol eu claddu. " Enw y drygionus a bydra;" diflanant fel brasder ŵyn. " Ac Absa- lom a gymerasai ac a osodasai iddo ei hun yn ei fywyd golofn yn nyffryn y brenin." Adeüadodd hen freninoedd yr Aipht fanau anghyfannedd yn feddau iddynt eu hunain. Llawer o jmherawdwyr Rhufain a osodasant gerfluniau o honynt eu hunain ar heolydd ac yn nhemlau y brifddinas, ond càn gynted ag y deallai y Ehuf- einiaid fod y teyrn wedi marw lluchid y cerfluniau i'r afon, dymchwelid y cofadeiladau gwych, a malurid pob peth a ddygai enw eu Uywodraethwr. Nid oedd eu bywyd yn.teilyngu coff- adwriaeth. Yr ail ddosbarth ydynt y dynion canolog hyny a lanwasant swyddau pwysig yn eu bywyd, ond cysgodion oeddynt ymhob ystyr, dynion na wnaethant lawer o ddrwg nac o dda; y brwyn cymdeithasol. Ehaid ys- grifenu eu cofiant cyn pen pum' mlynedd ar ol eu marwolaeth, a phrysurir i osod careg ar eu bedd, onidê bydd pawb wedi eu hanghofio. Ceir gweled cofadeiladau i ugeiniau o'r * John Bunyan, His Life, Times, and Work; by John Brown, B.A., Minister of the church at Bunyan Meeting, Bedford. With Illustrations by Edward Whymper. London: Williani Isbister. 1886. Second edition. dosbarth hwn yn yr hen eglwysi ac yn Westminster Abbey. Yr oeddynt " Like snow that falls upon a river, A moment white, then gone for ever." " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fen- digedig." Digon gwir, ond y mae gwahaniaeth cydrhwng bod yn fendi- gedig a bod yn barhäol. Bydd yn fendigedig tra y pery, ond cyn hir bydd "the unimaginable touch of time" yn drech, ac fe'u hanghofir hwythau. Y trydydd dosbarth yw y fintai feehan o ddynion y mae eu coffadwr- iaeth yn parhâu byth, a'u dail heb wywo mwy. I'r rhai hyn mae marw yn fantais, trwy eu symud ailan o gylch cystadleuaeth â chenfigen dyn- ion llai, a'u dyrchafu uwchlaw cael effeithio arnynt gan amgylchiadau am- ser. Sonir o oes i oes am yr hyn a wnaethent, darllenir eu llyfrau ym- hob gwlad, a theimlir eu dylanwad ymhen cenedlaethau ar ol eu claddu. Ni bydd yn anamserol codi èu cof- adail wedi iddynt orwedd yn y bedd am ddau can' mlynedd, a chy- merir dyddordeb yn ffeithiau bychain hanes eu bywyd, pan y bydd eu hil- iogaeth wedi hen ddiflanu. Dyma y dosbarth y perthyn John Bunyan iddo. Wrth edrych dros restr enwogion Lloegr gwelwn fod amryw o honynt wedi gorfod aros yn hir cyn cael byw- graffiad teilwng. Cymerodd llawer mewn llaw i osod allan mewn trefn hanes bywyd awdwr Taithy Pererin, ond nid yw yn ymddangos fod neb wedi cyflawni y gwaith mewn dull teilwng hyd nes y gwelodd y Parch. John