Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DETSOEPA. Rhif. 695.] MEDI, 1888. [Llyfr LYIII. CYFARWYDDYD A CHALONDID I WAITH Y WEINIDOGAETH. GAN Y PARCH. JOSEPH THOMAS, CAENO. Y Cynghor a draddodwyd yn y Gtuasanaeth Ordeinio yn Nghym- deithasfa Manchester, Mehefin 15fed, 1888. (a ysgrifenwyd gan yr awdwr.) Anwyl Frodyr,— 0 ufudd-dod yn unig, ac nid oddiar deimlo fy nghymhwysder, yr wyf wedi ymgymeryd â'r gwaith o roddi gair o Gynghor i chwi ar yr achlysur pres- ennol. Nid oes genyf ddim i'w ddy- wedyd mewn ffordd o'ch ammheu am ddim, er fod y rhan luosocaf o honoch yn ddyeithr i mi. Cefais y fraint o'ch clywed yn adrodd hanes dechreuad eich crefydd yn y Gymdeithasfa o'r blaen, a chefais lawer o foddlonrwydd wrth eich gwrando. Nid ydyw fy Nghynghor yn gwisgo rhyw wedd rybuddiol a phruddglwyf- us. Nid ydwyf wedi dewis un adnod yn destyn, er mwyn gochel rhoddi gwedd bregethwrol ar ryw Gynghor fel hyn. Nid ydwyf yn gallu ymgymeryd â'r gair a arferir gan y Saeson ar wasan- aeth fel hwn—Charge, er ei fod yn air Biblaidd. Gwell genyf ymadrodd arall, sef " Goddefwch air y Cy- nghor." Yr wyf yn amcanu rhoddi i chwi I. YCHYDIG O GYNGHORION GYDA GOLWG AR WAITH EICH SWYDD. II. Cyflwyno i'ch sylw rai ystyr- IAETHAÜ ER EICH CALONOGI YN EICH GWAITH. I. YCHYDIG O GYNGHORION GOLWG AR WAITH EICH SWYDD. GYDA 1. Cofiioch nad oes dim llai na go- goniant Duio, eich iachawdwriaeth eich hunain a'r rhai a wrandawant arnoch, ifod yn nod gwastadol o'ch blaen yn nghyfiawniad eich swydd. Nid oes na deddf nac efengyl yn galw ar ddyn i ofalu am neb ar draul es- geuluso ei iachawdwriaeth ei hun ; ac i'r graddau y bydd dyn yn efiro gyda'i achos ei hun y gall efe fod o wasan- aeth i eraill. Y mae profiad cryf o nerth yr efengyl ar feddwl dyn yn creu hyder a gwroldeb ynddo i'w chymhell ar eraill. " Ac y mae yn ddiammheu genyf," medd yr Apostol Paul, " ei fod Ef yn abl i gadw yr hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnw." 'Y mae Efe wedi fy nghadw I, er fy mod y penaf o bechaduriaid; ac nid rhywbeth oedd yr hyn a wnaeth Efe i mi nad oedd yn bwriadu ei wneuthur i neb arall,—na: " er siampl i'r rhai a gredant rhagllaw ynddo Ef i fywyd tragywyddol." ' " Gwelwyd ef," medd yr un Apostol am yr Arglwydd Iesu, " gan Cephas, yna gan y deuddeg; wedi hyny y gwelwyd ef gan fwy na phum' cant brodyr ar unwaith: . . . ac yn ddi- weddaf oll y gwelwyd ef genyf finnau hefyd." Yr oedd y rhai a'i gwelodd ef ar ol adgyfodi yn sefyll yn dystion cryfion o'i adgyfodiad ; a seliodd am- ryw o honynt eu tystiolaeth â'u 2 B