Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Rhif. 699.J IONAWR, 1889. [Llyfr LIX. ADGOFION HANNER CAN' M L Y N E D D .* GAN Y PARCH. DAVID PHILLIPS, ABERTAWE. (mewn dwy bennod.) PENNOD I. Y mae y cyfryw gyfarfod a hwn yn dra dyddorus i mi, fel, hwyrach, y gellwch chwithau dybio. Y mae yn rhyfedd genyf feddwl fy mod yn ddigon hen, fel ag i fod, yn hyny, yn meddu y cym- hwysder i fod yn eich plith ar y fath achlysur, a chymeryd rhan yn ngwas- anaeth y fath gyfarfod. Dichon na feddaf nemawr gymhwysder heblaw hyny. Pa fodd bynag am hyny, y mae bod yma yn eich mysg ar y fath achlysur, ac i'r fath amcan, yn rhoddi mantais i mi edrych yn ol dros rhyw driugain mlynedd ac uchod, gan beri i adgofion lawer adgyfodi o'u beddau ac ymrithio yn ddelweddau byw o flaen fy meddwl, gan gymhell eu hunain i sylw. Y mae llawer o hyny y byddai yn dda genyf beidio eu cofio na'u gweled byth, ond- eu claddu yn dragywyddol yn nyfnderoedd môr o anghof; ond y mae llawer eraill y mae yn felus eu cofio, ac yn ddymunol i edrych ar- nynt, -fel y dymunem allu rhoddi iddynt " adgyfodiad gwell." Gyda y rhai hyny yn unig y dymunwn aros heno, ac ymdroi o'u cwmpas am ychydig. * Traddodwyd yr Adgofion hyn ar y cyntaf yn y ffurf o Anbrchiad yn Nghyfarfod Can- mlwyddiant yr Achos Methodistaidd yn Bancyfelin, Sir Oaerfyrddin, Hydref 22am, 1888. Y mae yn agos driugain a deg o flynyddoedd wedi myned heibio oddiar y pryd yr wyf yn cofio gyntef am Bancyfelin a'r ardaloedd cylchyn- ol. Erbyn heddy w y mae y cyf newid- iadau yma yn fawrion ac yn amryw. Nid yw nemawr ddim yr un fath a chynt, ond arwynebedd y wlad: y mae y fftith mai gwlad cwbl amaeth- yddol ydyw yn abl rhoddi cyfrif am hyny. Y mae y dyffrynoedd a'r bryn- iau, yr afonydd a'r nentydd, y caeau a'r perthi, yn aros fel cynt Y mae y ffermdai hefyd yn weddol ddigyfnewid, ond eu bod yn heneiddio, ac ambell un wedi newid er gwell; ond y preswylwyr —y maent agos oll wedi cael newid eu gwyneb a'u danfon i'w ffordd, fel nad oes yn aros heddyw ond yr adgof am danynt. " Y tadau, pa le y maent hwy ? " Wedi myned i ffordd yr holl ddaear, a dygwydd meibion dynion wedi eu symud hwythau i'r " tỳ rhag- derfynedig i bob dynbyw." Braidd na allwn ddywedyd yma heddyw fel un o weision cyflog y Patriarch gynt, " Myfi fy hunan yn unig a adawyd i fynegi hyny i chwi." Pan droaf am ychydig i edrych yn ol, gan ymofyn am fy nghyfoedion, y mae dwfn brudd-der yn fy meddiannu. Ni welaf nemawr un o'r rhai gynt oeddent gyfoedion a chymdeithion i mi, " yn cydchware a chyd-ddysgu a chydymgomio yn gu." "Y rhai oedd yn felus genym