Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

28 NODIADAU MTSOL. galw sylw arbenig ato, mor fuan ag y byddo yn bosibl ?—(jOL.] Yn Nghyfarfod Misol Trefaldwyn Uchaf, a gynnaliwyd yn Machynlleth, Rhagfyr 6ed a'r 7fed, hystysodd y brod- yr a fu yn ymweled â'r Parch. Joseph Thomas, Carno, ar gais y Cyfarfod Misol, ei fod yn parhau yn hynod o siriol o ran ei feddwl, a'i fod yn anfon ei gofion caredig at y cyfarfod, ac mai anallu hollol oedd yn ei attal i fod yn bresennol. Pasiwyd fod y cyfarfod yn anfon ei gofion cynhes ato a'i gydymdeimlad âg ef. MARWOLAETHAU PREGETHWYR. Bu farw y Parch. William Prytherch, Ferry Side, Sir Gaerfyrddin, nos Fawrth, Tachwedd yr 21am, wedi cyrhaedd i henaint teg, yn bump a phedwar ugain mlwydd oed. Y mae yn debyg nad oedd neb yn fyw wedi teithio cymaint a Mr. Prytherch, nac wedi parhau i deithio am dymmor mor faith. Ac yr oedd ganddo lawer o gymhwysderau i'r gwaith —dawn naturiol helaeth a pharod, arab- edd cyflym, tymher nodedig o siriol a hapus, corff cryf a meddwl penderfynol. Bu yn bregethwr poblogaidd am dymmor hir, adnabyddus trwy holl Gymru, a chynnaliwyd ef mewn defnyddioldeb a chymeradwyaeth hyd ddiwedd ei yrfa faith. Gobeithiwn gael Cofiant o hono cyn hir. amrywion. Cynnaliwyd Cyfarfod Pregethu blyn- yddol yn Hendre, Sir Gaerfyrddin, Sab- both, Hydref 28ain. Gwasanaethwyd gan y Parchn. William Richards, Llan- fynydd, a L. Rhystyd Davies, Cwmbach. Cynnaliwyd Cyfarfod Pregethu, Sab- both a nos Lun, Tachwedd 25 a'r 26ain, yn Glandwr, Abertawe. Pregethwyd gan y Parchn. Dr. Saunders, Abertawe; Thomas Rees, Cefn, Merthyr; a Robert Tbomas, gweinidog yr Annibynwyr. Cynnaliwyd Cyfarfod Pregethu Sab- both a Llun, Tachwedd lleg a'r 12fed, yn Bryncethin. Y gweinidogion a was- anaetnent oeddynt y Parchn. J. Morgan, Abercynffig; W. Daniel, Penmark; a W. John, Penybont. GALWADAU BUGEILIAID. Yn ystod y misoedd diweddaf rhoddwyd galwadau i'r gweinidogion canlynol i'r gwahanol eglwysi a enwir isod. Credwn eu bod oll wedi eu derbyn. Y mae am- ryw o honynt eisoes wedi symud i faes «u llafur, a'r galwadau wedi eu cadarn- hau gan y gwahanol Gyfarfodydd Misol. Y Parcbedigion Hopkin Howe, i Aber- gwynfi, Gorllewin Morganwg; Lodwig Lewis, Sciwen, i Fforest, Aberdulais; William Benjamin, Aberystwyth, i eg- lwysi Adfa a Llanwyddelen ; David Hos- kins, M.A , Llanrhaiadr, i Bethania, Corris; Pierce 0. Pierce, Jerusalem, Arfon, i Benucheldref, Môn; John Ro- bert Evans, Wigan, i Tyldesley a War- rington; J. Puleston Jones, B.A., Bala, i eglwys Seisonig Princes' Road, Bangor; E. C. Evans, Trefîorest, i Carmel, Sir Frycheiniog; E. J. Williams, Llan- wyddyn, i Llandrillo; 0. Parry Owen, Abermaw, i Tregynon ; John Roberts, Rhuallt, i Corris ac Esgairgeiliog; Ro- bert Roberts, Tyldesley, i Gorphwysfa a Minffordd; Thomas Thomas, Dolgellau, i Eglwys Seisonig Towyn Meirionydd; E. J. Evans, Llanbedr», i Nazareth, Pen- rhyndeudraeth. iloòtaòair jttt$ol. --------a n:_______