Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEISOEFÁ. Rhif. 701.] MAWRTH, 1889. [Llyfr LIX. Y LLE A'R ETIFEDDIAETH. PREGETH GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOSEPH THOMAS, CARNO. A draddodwyd yn Towyn, Boreu Sabboth, Chwefror 26ain, 1888. (WEDI EI CHOFNODI GAN MR. J. MAETHLON JAMES.) Yn ystod yr oedfa, canwyd yr Eniynau canlynol: 131, 303, 327 a 720. Wedi darllen Salm xlviii., gweddiodd Mr. Thomas fel y canlyn :—* " Cynnorthwya ni, 0 Arglwydd ! i nesâu atat ti ar ddechreu gwasanaeth y Sabboth hwn. Mae cymaint a hyn o honom wedi cael bywyd ac iechyd i ddyfod i dy gyn- teddoedd eto uuwaith; ac nid oes na di- f aterwch nac esgeulusdra wedi ein rhwystro ni. Díolch iti am hyn ; ac am y rhagor sydd rhyngom ni heddyw â'r cleifion a'r tlodion sydd yn methu dyfod i dy dŷ. Pob rhagor a feddwn ni heddyw ar y cyfryw rai, tydi, 0 Arglwydd! a'i gwnaethost. Goleua ni i weled gwerth ein mauteision cyn eu colli. Mae llawer o bethau yn y byd hwn y mae yn rhaid i ni fod hebddynt. Ond gwared ni rhag bod heb weled gwerth y pethau yr ydym yn eu mwynhau ; a rho gymhorth i ni, yn y mwynhâd o'r pethau a gollir genym, i ddyfod i geisio y pethau na chollir byth mo honynt. Mae genyt ti bethau, os cawn ni hwynt, nyni fydd pîau hwynt am byth. Dyro i ni gyrchu at nôd a dyben bywyd ar y ddaear, trwy ymnerthu yn y gras sydd yn Nghrist Iesu ein Har- glwydd. Maddeu i ni mor dueddol ydym i addunedu heb gyflawni, Deffro ni i wneyd * Gall cyhoeddi gweâdi ymddangos yn beth dyeithr i lawer o Gymry. Ond y mae argraffu y Weddi ynghyd a'r Bregeth yn beth cyffredin yn Lloegr. Y mae Hîaws o weddìau wedi eü cofnodi yn y Bibl. Ac y mae darllen gwir weddiau yn beth dymunol a bendithiol iawn. rhywbeth a fyddo yn werth ei wneyd yn y byd yma. Cynnorthwya ni i ddyweyd a gwrando, a mwynhau dy eiriau. Yr yd- ym yn cael fod y genedl gynt yn ymffrostio fod ganddynt Abraham yn dad iddynt, ond nid oedd dim lle i dy eiriau di yn eu calon- au. Ti sydd yn gwybod i ba ddyben y daethom yma heddyw. Rho dy fendith arnom. Cadw dy waith yn fyw yn ein hysbryd. Gwna yr efengyl yn allu er iachawdwriaeth heddyw. Cofia y cleifion. Cadw ni heb golli ein cydymdeimlad â hwy. Cofia y tlodion a'r rhai sydd mewn helbul. Agor galonau cyfoethogion y byd yma i'w cynuorthwyo. Dy amddiffyn fyddo ar ein gwlad. Cadw hi rhag pechu dy amddiffyn dwyfol oddiarni. Erfyniwn yr oll yn enw eiu Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist. Amen." " Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a'm phiol; ti a gynneli fy nghoelbren: y llinynau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd; îe, y mae i mi etifeddiaeth deg."— Salm xvi. 5, 6. Chwi welwch, fy nghyfeillion I, heb i mi ymdroi gydag amgylchiadau y geiriau hyn, mai yr hyn sydd gan y Salmydd yw, dadgan ei foddlonrwydd ar ei le ac yn ei etifeddiaeth. Dyn yn foddlon ar ei le. Mae yn ym- ddangos i mi ein bod yn bur dueddol i aros gormod gyda'r pethau nad ydynt yn ein meddiant. Os bydd dyn yn meddu ar gyfoeth a rhwysg mawr, yr ydym yn dueddol i feddwl fod ded-