Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEFA. Rhif. 704.J MEHEFIN, 1889. [Llyfr LIX. Y PAECH. WILLIAM HOWELLS, TEEFECCA. GAN Y PARCH. JOHN HUGHES, M.A., MACHYNLLETH. (mewn dwy bennod.) PENNOD I. Cyn clywed o honom y newydd, yr oedd wedi myned i'r dystawrwydd tragywyddol. Wedi marw, ac wedi ei gladdu gyda'r symlr wydd mwyaf (braidd na theimlasom ar y pryd gydag oerfelgarwch am ddyn cyhoeddus fel efe), cyn i ni wybod fod perygl i ni ei golli. Ond yr ydym wedi byw digon yn y byd i wybod mai pethau fel hyn sydd i'w dysgwyl ynddo. Yn wir y mae hyn yn beth sydd yn cuddio i'n golwg ni lawer o ddiffygion ac anwas- tadrwydd y sefyllfa bresennol: nid ydyw angeu yn aros cyfleusdra neb. Ehaid i'r ymherawdwr ar ei orsedd, yn gystal â'r cardotyn yn ei fwthyn, y dysgawdwr mwyaf a'r pregethwr hyawdlaf, yr un ffunud a'r baban sydd heb dreiglo yr un gydsain dros ei wefus, fyned pan ddêl amser Duw i ben. Ac yn aml, i'n golwg ni, angeu ydyw y peth mwyaf dwyfol ymysg y pethau a welir. Pan ddarllenasom gan hyny yr hysbysiad am farwolaeth Proffeswr Howells, yr hyn a gymer- odd le tuag wyth o'r gloch, nos Iau, Tachwedd 15,1888, gwelsom ddwyfol- deb yr amgylchiad, a dywedasom, " Ewyllys yr Arglwydd a wneler." Mae y gweisionynmynedi'r orphwys- fa: amynedd 1 ac o drugaredd Duw fe ddaw yr un promotion i ninnau. Ac yn awr y mae y pin ysgrifenu yn ein llaw i daflu ar bapyr rywbeth ddaw i'n meddwl am dano, ac yna i'r " fasged," neu i'r Drysorfa, yn ol fel y pender- fynir gan yr awdurdodau y sydd. Y mae yn awr yn agos i ugain mlynedd er pan y daeth enw Mr. Howells yn hysbys ac o un dyddordeb i ni. Yr oeddem yn adnabod ei ddi- weddar gydlafurwr, Dr. JonEs, cyn hyny, ac wedi ei glywed yn pregethu lawer gwaith, ac yn edmygydd mawr o hono, mae'n dra thebyg, fel llawer o fechgyn ieuainc eraill, o herwydd ei lais peraidd a'i hwyl hapus wrth bregethu. Cofiwn yn dda, pan yn llygadu ar y pulpud ein hunain, ein bod yn gosod ein hunain wrth ei ochr, ao yn mesur ein hunain wrtho. Sylw- em arno yn dra manwl—ei wedd, ei waedd, ei lais, ei lygaid, a holl fanyl- ion ei wynebpryd; yn enwedig y darn breninol hwnw sydd fe allai, yn fwy nag un rhan arall, yn fynegiad o'r dyn oddimewn, ac yn penderfynu arddull y wynebpryd. Nis gwn pa- ham yr oedd y darn hwnw o'r wyneb- pryd yn item mor bwysig yn yr ystyr- iaeth, ond dyna y ffaith. Nis gallas- em fod wedi canfod y pryd hwnw, yr hyn a wnaethorn wedi hyny, fod eraili hefyd yn ystyried yr aelod pwysig hwiiw o'r wynebpryd dynol yn ffurfio type y wyneb, a'i fod yn elfen mor fawr i;ffurfio dyfodol y dyn. Gwelsom yn ddiweddar, wrth ddarllen bywyd y