Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEFA. Ehif. 708.] HYDEEF, 1889. [Llyfr LIX. PEEGETH ANGLADDOL I'E DIWEDDAE BAECH. HENEY EEES, GAN Y DIWEDDAR BAECH. LEWIS EDWARDS, D.D. Yr hon a draddodwyd ganddo yn Nghapel y Bala, nos Iau, Mawrth áydd, 1869. (ysgrifenwyd gan y pabch. o, t. williams, bhyl.) _ Hebbeatd xiii. 7, 8: " Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw : ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Y mae yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, fel pe buasai yr awdwr yn y bennod hon yn taflu at eu gilydd gynifer o gynghorion heb ddim cysyllt- iad rhyngddynt. Mae dau fath o gysylltiad, un yn ymresymiadol a'r llall yn awgrymiadol. 'Does yma ddim cysylltiad gwahanol ranau rnewn un ymresymiad, fel y cawn yn y rhanau blaenorol o'r llyfr : ond eto y mae yn debyg fod yma gysylltiad awgrymiad- ol er hyny, sef y naill gynghor yn awgrymu y cynghor nesaf; rhyw air, fe allai, neu syniad mewn un adnod, yn arwain y meddwl at yr adnod arall. Mae yr Apostol yn dechreu gyda brawdgarwch—y pwnc mawr oedd ganddo ef ac Ioan i alw sylw yr holl eglwysi ato ymhob Epistol. Mae ûyn yn arwain yn naturiol iawn i roddi cynghor ar lettýgarwch. Yna y Daae y meddwl o lettýgarwch yn awgrymu y meddwl am berthynas deuluaidd, yr hon sydd yn seiliedig ar briodas. 0 ganlyniad y mae rhyw air neu ddau ar anrhydedd yr undeb priodasol yn dylyn. Yna y mae y berthynas deuluaidd yn arwain yn naturiol at, ac yn awgrymu ymddiried yn yr Arglwydd—y ddyledswydd fawr o ymddiried ein hamgylchiadau i'r Arglwydd, yr Hwn a ddywedodd, " Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith." Mae y meddwl yma drachefn yn awgrymu i'r awdwr esiamplau yr hen flaenoriaid, fel cymhorth i ymddiried yn yr Arglwydd. ' Meddyliwch am y rhai a aethant o'ch blaen; y fath rwystrau yr aethant hwy drwyddynt; mor ddyoddefgar, mor fiyddiog yr aethant hwy drwy bob cyfyngder—meddyliwch am dan- ynt hwy.' Yna y mae'r awgrymiad am y blaenoriaid yn arwain at Fugail mawr y defaid, "Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd.' Ehyw gysylltiad fel yna, dybygaf, sydd yma; cysylltiad awgrymiadol, y naill feddwl yn awgrymu meddwl arall yn yr adnod ddylynol. 0 bosibl nad oes ychydig o ryw duedd eto i ofni rhoi gormod o barch i ddynion da ; ac y mae rhai yn ddiam- mheu wedi myned i eithafion y ffordd yna. Mae y Pabyddion yn rhoi gor- mod o barch i'r seintiau ; ond 'does dim perygl i ni fethu ond i ni roddi y ddwy adnod gyda'u gilydd: " Meddyl-