Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DHYSORI^A. Rhif. 717.J GORPHENAF, 1890. [Llyfr LX. ARAETH A draddodtuyd wrtJi roddi i fyny y Gadair Lywyddol yn y Gymanfa Gyffredinol, yn Liverpool, Mai 20fed, 1890. GAN T PARCH. G. PARRT, D.D., CARNO. Anwyl Dadau a Brodyr :— Yn unol â'r arferiad yn ein plith, yr ydwyf yn cyfodi i'ch cyfarch âg ych- ydig sylwadau wrth roddi i fyny Gadair Lywyddol y Gymanfa Gyffred- inol arn y flwyddyn. Buni mewn cryn betrusder pa beth i'w gymeryd yn destyn y sylwadau hyn. Nis gallwn lai na theimlo fod priodoldeb rnawr ar yr achlysur hwn—yr unig gynnulliad pan y mae yr holl Gyfundeb yn bres- ennol yn ei gynnrychiolwyr—mewn bod yr araeth, fel rheol, yn bwrw golwg ar y Cyfundeb yr ydym yn perthyn iddo, yr hwn y mae ei lwydd- iant mor agos at ein calon, yn gymaint ag mai o fewn y cylch hwn y mae ein gweithgarwch Cristionogol ni yn ben- af, a bron yn gwbl, yn cael lle i weith- redu—bwrw golwg arno yn ei hanes a'i lwyddiant blaenorol, yn ei sefyllfa bresennol, yn ei beryglon a'i anghenion —yn arbenig yn yr hyn sydd yn ang- henrheidiol tuag at ei gyfaddasu fwy- fwy i gyfarfod â'r cyfnewidiadau prysur a phwysig ag y mae yr amser hwn mor lawn o honynt, o ran agweddau meddwl a chrefydd—a thaflu trem ar ei ragolygon am y dyfodol—y dyfodol agos a'r dyfodol pell. Ar yr un pryd, nis gallwn lai na theimlo hefyd mai buddiol fyddai i ni, yn awr ac eilwaith, ddefnyddio yr achlysur neillduol hwn i geisio ym- gyfodi i dir uwch—i awyr eangach, a chodi ein golwg oddiwrth ein Cyfun- deb at y Grefydd hono yn yr hon y cafodd ei fôd, ac er mwyn yr hon y mae yn bod. Y mae Cristionogaeth yn fwy na Methodistiaeth,—yn fwy na phob trefniant enwadol. Yr ydyrn yn Gristionogion yn gyntaf, ac yn Fethodistiaid yn ail. Pa bethau bynag sydd hawddgar, pa bethau bynag sydd ganmoladwy yn ein Cyfundeb, od oes dim rhinwedd, ac od oes dim clod yn perthyn iddo, y mae hyny i gyd am ei fod, ac i'r graddau y mae, yn allu i gynnyrchu ac i feithrin meddwl Crist yn eneidiau dynion, ac yn foddion i ledaenu egwyddorion ac ysbryd Crist- ionogaeth yn ein gwlad, ac yn y byd. Ei wasanaeth i Gristionogaeth yw " rheswm ei fod." Ac y mae neilldu- olrwydd yr amseroedd yn rheswm ychwanegol dros hyn—" amseroedd enbyd y dyddiau diweddaf" fel y barna llawer, pan y mae yr ysbryd gwrth-Gristionogol a gwrth-grefyddol wedi dyfod allan gydag eofndra ne- wydd, ac yn ymgorffoli mewn ffurfiau newyddion—ffurfiau coethedig, hollol wahanol i rai garw canrif neu ddwy yn ol, ffurfiau yn uno eu hunain â gwyddoniaeth yr oes, ac â chynnydd y byd mewn dealltwriaeth—ffurfiau deniadol a dirgelaidd, ac o gymaint a hyny yn fwy peryglus. Gwir nad yw Cymru eto yn teimlo llawer oddiwrth y dylanwadau niweidiol hyn, ac y mae hyny yn destyn llawenydd a diolch- garwch. Ond ni ddylai hyn ein