Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEISOEPÁ. Rhif. 718.] AWST, 1890. [Llyfr LX. PHYLIP. GAN Y PAECH. W. MORRIS LEWIS, TY LLWYD. Y mae ein dyled ni, y Cenedloedd, i Phylip, un o'r saith, enw yr hwn a gyplysir â'r eiddo Stephan, yn fawr iawn, yn fwy fe allai nag yr ydys ar- ferol ei gydnabod. Efe, yn cael ei ysgogi gan y syniadau eang a rhydd- frydig arn Gristiogaeth, a gyhoeddwyd gyntaf i'r byd yn araeth arnddiffynol ei gyfaill ger bron y cynghor, a fu y cyntaf i wneyd rhwyg yn y niuriau a adeiladesid gan ragfarn o amgylch yr Eglwys gyntefig yn Jerusalem yn erbyn derbyniad y Conedloedd i rag- orfreintiau yr Efengyl. Efe, trwy effeithiolrwydd a llwyddiant ei lafur yrnysg pobloedd y tu allan i gylch yr Israel, a fu y cyntaf i ddangos fod Iesu Grist nid i'w gyfrif yn unig yn weinidog yr enwaediad, ac yn anilyg- iad o wirionedd Duw yn nghyflawniad yr addewidion a wnaethpwyd i'r tad- au, eithr hefyd yn amlygiad o anfesur- ol drugaredd Duw tuag at yr holl fyd, yn yr hwn y cawsai Efe ei foli gan yr holl genedloedd, a'i glodfori gan yr holl bobloedd. Yr oedd efe, megys Stephan, yn llawn o ffydd yn Nghrist ac addasrwydd yr Efengyl i'r byd, ac o'r Ysbryd Glân, dylanwad yr hwn ar yr enaid a lenwir âg ef sydd yn ei arwain mor bell oddiwrth gulni ag y mae oddiwrth bechod, gan ei fod nid yn unig fel y tân yn sanctaidd, pur a dilwgr, eithr hefyd fel y goleuni, yn wasgarol, diamdlawd ac eang. Os mai y ddau hyn oeddynt y cyntaf, nid hwynt-hwy mewn un modd oeddynt , yr olaf, o rai mewn swydd eilraddol i yn Eglwys Crist, a fuont fynych | arweinyddion i rai mewn swyddi uwch, í yn haelfrydedd eu hysbryd, ac eang- \ der eu syniadau am Gristionogaeth yn í ei gwirioneddau, ei hathrawiaethau, a'r gwaith ag ydoedd i'w gyflawni yn | y byd. Yn y golygiadau a'r egwyddorion y : rhoddwyd dadganiad iddynt gan | Stephan y gwelir y sylfaen ar ba un I yr adeiladwyd, y llinellau ar ba rai y j gweithredwyd, gan Phylip. Manteis- | iol, gan hyny, fydd i ni wneyd ymgais | at eu deall, a rhoddi iddynt eu safle j priodol yn nadblygiad hanes yr Eglwys 1 gyntefig. Poethder y dadleuon a gyfodasant o bryd i bryd yn y synagog hono yn Jerusalem, lle y cyrchai y Libertiniaid a'r rhai o Cilicia, ymysg y rhai y mae yn sicr y gwelsid ac y clywsid yn fynych y gẁr ieuanc Saul, ydoedd yr hyn a gynhyrfodd ac a dynodd allan alluoedd meddyliol ac ymresymiadol Stephan. Prin ydyw y ffeithiau a roddir gan yr hanesydd am y dadleuon hyn, ond gan ei fod yn debygol mai oddiwrth y g\vr ieuanc hwnw a gymerodd ran amlwg ynddynt y cafodd yr hanesydd yr ychydig a gofnodir, gellir dysgwyl iddynt fod yn awgrymiadol o'u natur. Hysbysir gan hyny i Stephan yn ei ymresymiadau roddi seiliau digonol i'w gyhuddwyr dystio iddo ddywedyd " cableiriau yn erbyn Moses, y gyfraith a'r deml." Yn y misoedd ag yr oedd yr Apöstol-