Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Rhif. 720.] HYDREF, 1890. [Llyfr LX. "EWCH I'R HOLL FYD." Cynghor ar Ordeiniad nifer o Frodyr i'r Weinidogaeth. (A draddodwyd yn Nghymdeithasfa Tregaron, Awst, 1890.) GAN Y PAECH. WILLIAM POWELL, PENFEO. Marc xvi. 15 : " Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewoh i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Rhoddwyd y gorchyniyn hwn i un ar ddeg o ddysgyblion Crist, y rhai a alwyd ganddo i fod yn apostolion. Y pryd hwn yr oedd Judas wedi rnyned " i'w le ei hun." Nid i'r fath un ag ydoedd efe y mae yr Arglwydd Iesu yn ymddiried y gwaith o bregethu yr efengyl, ond i'w ddysgyblion gwirion- eddol. I chwithau, anwyl frodyr, y peth sydd o'r pwys mwyaf, ac yn anheb- gorol anghenrheidiol i bregethu yr efengyl, ydyw eich bod yn ddysgybl- ion o ran cyflwr a phrofiad ; yn rhod- io m«wn cymdeithas â Christ, a duw- ioldeb amlwg yn nodweddu eich cymer- iad. Dysgyblion gwirioneddol yn gynt- af dim. Fe fydd yr adeilad yn ofer os yw eich sylfaen ar y tywod. Ac wrthych y dywedir, " Ni hebryngais i y prophwydi hyn, eto hwy a redasant: ni leferais wrthynt, er hyny hwy a brophwydasant." Ond yr ydym yn gobeithio am danoch chwi bethau gwell. Mae'r eglwysi, y Cyfarfod Misol, y Gymanfa, yn cymeryd yn ganiataol eich bod yn ddynion Duw; ac yr ydym yn gobeithio na chawn ein siomi yn yr un o honoch yn y dyfodol. Bydd llwyddiant neu af- lwyddiant crefydd yn yr oes hon, a'r nesaf, yn dibynu i fesur mawr ar ba fath ddynion ydych. I fod yn off- eiriaid cymeradwy dan yr hen or- uchwyliaeth, yr oedd yn rhaid i Aaron a'i feibion olchi eu cnawd â dwfr glân cyn eu gwisgo â'r gwisgoedd sanctaidd. Wedi eu golchi yr oeddynt yn cael eu cysegru. Felly y mae yn anghenrheid- iol i chwithau brofi " golchiad yr ad- enedigaeth ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân," i gael eich neillduo i waith y weinidogaeth. Cyn i'r prophwyd gael ei ddanfon â'i genadwri ddifrifol at y genedl, ehedodd ato un o'r seraphiaid, ac " yn ei law farworyn a gymerasai efe oddiar yr allor, ac a'i rhoes i gyffwrdd â'i enau, ac a ddywedodd wrtho, Wele, cyffyrddodd hwn â'th wefusau, ac ym- adawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod." Ac y mae yn ofynol i chwith- au brofi cyffyrddiad gwaed Iesu Grist â'ch calonau,yn eichglanhau oddiwrth eich pechodau, i fod yn genadau dros Dduw at ddynion. Heb adenedig- aeth ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân, heb eich glanhâu oddiwrth eich pech- odau, lladron ac ysbeilwyr fyddwch ac nid bugeiliaid. Heb dduwioldeb nis cyfrifir gan Dduw yn addas iddo ef ymddiried i chwi ei efengyl. Y mae crefydd wirioneddol yn anghenrheid- iol tuag at i chwi gael eich hystyried gan ddynion, " megys gweinidogion i 2 K