Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"Y DEYSOEEA. Rhif. 723.] IONAWR, 1891. [Llyfr LXI. EIN BRODYR YN Y GORLLEWIN. GAN Y PAECH. T. CHARLES EDWARDS, M.A., D.D. Clywais y dywediad fwy nag urtwaith yn yr Arnerica na ddylai neb roddi barn ar y bobl a'u sefydliadau, os na bydd wedi bod yn y wlad am fîwydd- yn. Yr unig wrthddadl sydd genyf yn erbyn y rheol hon ydyw byrdra yr amser a ofynir. Y mae yr America mor fawr a'r cwestiynau ynghylch ei thrigolion mor amrywiol ac anhawdd, fel y gallaf ddeall yn hollol paham y dywed Mr. Bryce am dano ei hun, ei fod yn dychwelyd adref y tro cyntaf gyda haid o osodiadau cyffredinol eofn, ond iddo fwrw eu hanner i'r môr ar ol ei ail ymweliad, a rhai o'r gwedd- ill wrth ddychwelyd y drydedd waith. Ond ymddengys iddo ymweled â'r America deirgwaith, a sicrheir i ni gan sylwedydd crafî fod trydydd fedd- wl yn dwyn dyn yn ol yn fynych at ei feddyliau cyntaf. Hyderaf, pa fodd bynag, y cofia fy nghyfeillion yn yr Unol Daleithiau nad wyf yn hòni dim wrth adrodd yn syml pa fodd yr ym- ddangosai pethau i mi yn ystod fy ymweliad brysiog, a fy mod wedi dysgu newid fy meddwl ar liaws o bynciau,—er nad eto ar awduriaeth yr Epistol at yr Hebreaid. Os brysiog y daith, nid oedd yn fèr, Rhedai, fel llinell fìlwrol y Cadfridog Grant, igam ogam,—o New York i Yale yn Connecticut, i weled y Brifysgol; yna i Baltimore yn Maryland, i weled Prifysgol Johns Hopkins ; i Washing- ton, i glywed dadleuon y Senedd a'r Tý, ac i ysgwyd llaw, brd sicr, â'r Arlywydd; i Princeton yn New Jer- sey, ar ymweliad byr â Dr. MacCosh aDr.Wardlaw; i Gymanfa Plymouth, i Willcesbarre, Scranton, Slatington, Bangor, a West Bangor yn Pennsyl- vania; i Gymanfa Gyfîredinol y Pres- byteriaid yn Saratoga; i Gyfarfod Dosbarth Vermontj i Gymanfa Utiea, ac i'r henafol Remsen yn Nhalaeth New York; i Columbus a Chymanfa Oakhill, a Cincinnati (ar ymweliad â fy nghyfaill Dr. Llewelyn Ioan Evans a'r ddau Gymro arall sydd yn athraw- on gydag ef yn Ngholeg Duwinyddol Lane, Dr. Morris a Dr. Roberts), ac i Venedotia, i weled y Parch. Thomas Roberts, fy hen gyfaill yn nyddiau chwareus Athrofa y Bala ; ac yr oedd y daith hon o Utica trwy Cleveland i ddeheubarth Ohio, ac wedi hyny ar draws y Dalaeth tua'r gogledd. Oddi- yno aethom (canys yr oedd dau yn y cwmni) i Chicago a Phrifysgol Lake Forest, yn Iilinois, i ymweled â fy mherthynas, Dr. W. C. Roberts; i Racine a Chymanfa Milwaukee yn Wisconsin; i Gymanfa Foreston yn Iowa; i Mankato a Blue Earth a Minneapolis yn Minnesota; i Aber- deen yn North Dakota. Wedi hyny cychwynasom i'r daith fawr dros y Mynyddoedd Creigiog, ar hyd llinell ardderchog y Northem Pacific Bail- road, i Seattle yn Nhalaeth Washing- ton, a thrwy Puget Sound i Victoria yn Ynys Vancouver; yna trwy Tacoma i Portland yn Oregon; i fyny yr afon