Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DETSOEFA. Ehif 751.] MAI, 1893. [Llyfr LXIII. SIAEAD A DYNION AE WELY ANGEÜ. GAN Y GOLYGYDD. Peth sydd yn dyfod i ran gweinidog- ion yr efengyl yn fynych, ac i ran Cristionogion eraill weithiau, ydyw cael eu galw at ddynion ar wely ang- eu, yn y gobaith fod ganddynt hwy rywbeth i'w ddywedyd wrthynt, neu ryw gyfarwyddyd i'w roddi iddynt, pan y mae y meddygon wedi dadgan anobaith am eu hadferiad. Ar am- gylchiadau felly, weithiau, gwel y gweinidog ar unwaith, os nad oedd yn gwybod o'r blaen, fod y claf mewn cyflwr ac agwedd hollol anmharod i fyned trwy y cyfnewidiad mawr sydd yn ei ymyl. Hwyrach fod y claf, er gwybod fod y diwedd yn ymyl, ac er teimlo yn ddwys am fod ei fywyd ar y ddaear ar derfynu, yn gwbl anystyriol ynghylch ei berth- ynas bersonol â Duw; neu, ynte dichon ei fod yn teimlo ei euog- rwydd, yn gwybod ei fod yn annuw- iol, ac mewn ofn a dychryn mawr oblegid hyny. Ond ymha ystad bynag y byddo, dysgwylir fod y pregethwr yn abl i'w ddeall, ac yn gwybod beth i'w ddywedyd wrtho, a pha fodd i'w gyfarwyddo. Ni osodwyd neb erioed mewn cyfwng mwy pwysig, nac o dan gyfrifoldeb mwy difrifol, nag y mae y gweinidog wedi ei osod ynddynt y pryd hwnw! Ychydig fisoedd yn ol ysgrifenodd " Gweinidog Ieuanc " at Olygydd un o'r cyhoeddiadau Seisonig ir ofyn ei gynghor ynghylch pa genadwri i'w dwyn at ddynion yn marw. Dywedai ei fod ef mewn petrusder ar y mater— y gwyddai beth oedd gan yr " hen dduwinyddiaeth Efengylaidd" i'w ddywedyd ar y fath achlysuron; ond fod " goleuni llawn meddyliaeth ddiw- eddar," yn yr hwn, mae yn debyg, y trigai efe, wedi dinystrio ei gred yn y ddysgeidiaeth hono ; ac, wedi ei am- ddifadu o'i hen genadwri " Efengyl- aidd," yr oedd yn cael ei hun heb wybod beth i'w ddywedyd wrth dru- einiaid ar ddarfod am danynt. Os oedd "goleuni llawn meddyliaeth ddíweddar " wedi dallu y gŵr ieuanc ei hun, nid ei feio a ddylid yn gymaint a chydymdeimlo âg ef, a'i gynnorth- wyo; ond yr oedd i'w feio a'i gon- dernnio yn fawr am ddal ei swydd fel gweinidog mewn eglwys Gristionogol tra nad oedd bellach yn credu ýn nghenadwri yr efengyl. Mae yn ddi- ammheu fod llawer cwestiwn mewn duwinyddiaeth a beirniadaeth Ys- grythyrol yn dwyn meddyliau gwein- idogion ac eraill i wyneb anhawsderau sydd yn peri iddynt betruso rhoddi unrhyw atebiad iddynt, heb fod hyny yn y graddau lleiaf yn siglo eu ffydd yn Nuw ac yn ngwirioneddau hanfod- ol yr efengyl; ac nid yw petruso ynghylch cwestiynau felly yn anghy- mhwyso dyn mewn un modd i fod yn "weinidog da i Iesu Grist." Ond y mae i un lynu yn ei swydd fel gwein- idog i Grist, tra nas gall gymhell