Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DHYSOIRIFA. Rhif 7tó.] MEDI, 1893. [Llyfr LXIII. TRYDEDD JUBILI Y CYFÜNDEB.—TREM AR HANES A PHRIF SYMÜDIADAÜ Y CYFUNDEB. GAN Y PAECH. OWEN JONES, B.A., LLANSANTFFEAID. YSGRIF II. Yr ydym wedi galw y Methodistiaid yn Gyfundeb, ond rhy brin y gellid ei alw felly eto. Nid oedd y diwygwyr cyntaf yn meddwl am ymffurfio yn Sect wahanol; ystyrient eu hunain yn aelodau o Eglwys Loegr. Ond gan na chaent weithio yn yr Eglwys, torasant allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, gan bregethu mewn teiau, ysguboriau, a lleoedd anghysegredig eraill. Trowyd rhai o'r Offeiriaid o'r Eglwys o herwydd eu hafreoleidd-dra; a gwrth- odid gwasanaeth eraill oedd yn Guradiaid, os oeddynt o'r duedd hon. Yn y dull diweddaf yr ymddygwyd at Charles a Simon Lloyd. Gwrth- ododd Esgob Llanelwy roddi caniatâd i Mr. Lloyd i wasanaethu fel Curad, oblegyd ei dueddiadau Methodistaidd. Dyna paham yr ymunodd Charles â'r Methodistiaid yn y Bala, yn 1785. Ond cyfrifent eu hunain yn aelodau o Eglwys Loegr, ac felly y gwnai eu dilynwyr. Elai y rhai oeddynt yn aelodau gyda'r Methodistiaid i eglwys y Plwyf i'r cymundeb, ond yn y manau lle y gweinyddid ef gan yr Offeiriad Methodistaidd. Bu Llangeitho a'r Bala yn gyrch-leoedd y saint o bob cẁr o'r wlad ar y Sabboth Cymundeb. Ni allai .yr oll fyned, ac os cymunent o gwbl, yn eu heglwys blwyfol y gwnaent hyny. Rhoddwyd drws agored i gael cymundeb mewn rhai lleoedd eraill yn wyneb yr anfoddlon- rwydd oedd yn cyfodi. Yn y De, o herwydd prinder lleoedd y gweinyddid y Cymundeb ynddynt, y cwynid; ond yn y Gogledd yn herwydd prinder gweinidogion; gan yr ymddengys y eeid cymuno yn y capelydd yn gyff- redinol yn y Gogledd; pan y deuai gweinidog yno. Yr oedd nifer yr Offeiriaid oedd yn ffafriol i Fethod- istiaeth yn lliosocach yn y De nag yn y Gogledd. Bu o 20 i 30 o Offeiriaid a gefnogent y Methodistiaid, yn hollol neu mewn rhan, yn y De; ond nid oedd ond tri yn y Gogledd, sef Mri. Charles, S. Lloyd, a W. Lloyd, Caer- narfon. Pa beth a wneid? Yr oedd yr achos yn llwyddo, y cyfeillachau yn lliosogi, capelau wedi eu codi, yr aelodau yn cynnyddu, a nifer mawr o bregethwyr enwog wedi codi. Dros rai blynyddoedd parhaodd hyn yn destyn cwyn yn y Gogledd a'r De. Urddwyd un neu ragor yn y dull Ym- neillduol neu Independaidd, gan yr eglwys lle y trigai ac y gweinyddai y pregethwr. Galwyd ar Thomas Jones i weinyddu yr ordinhadau gan eglwys Rhuthyn, lle y preswyliai ar y pryd. Ond er fod y pregethwyr yn gweled yr anghysondeb, nid oeddynt yn hoffi siarad Uawer arno; yr oedd yr Offeir- 2 B