Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEFA. Rhip. 614.] RHAGFYR, 1881. [Llyfr LI. DUW, CARIAD YW. GAN Y PARCH. ROBERT DAVIEá, AMWYTHIG. 1 Ioan iv. 8, 16. Un o'r pethau anhawddaf yw rhoddi darnodiad neu ddeffiniad o beth, hyny yw, enwi rhyw nôd neu amgylchiad a '< berthyn iddo ag sydd mewn modd cyff- i redinol ac anffaeledig yn ei wahan- iaethu oddiwrth bobpeth arall sydd yn ; bod, hyd yn nôd y pethau agosaf a ; thebycaf iddo. Y mae y gair deffinio yn golygu nodi allan derfynau peth. A thuag at wneuthur hyny yn llwyddian- nus, y mae yn ofynol enwi y dosbarth y perthyna iddo, ynghyd a gwneyd yn eglur y gwahaniaeth sydd rhyngddo â phobpeth arall yn y dosbarth hwnw. Dywed Isaac Taylor fod un nôd an- ffaeledlg yn ddigonol mewn deffiniad ; oblegid os gwneir gwrthddrych yn ad- nabyddus trwy y nôd hwnw y tu hwnt i'r posiblrwydd o gamgymeryd, nid yw pa beth bynag a ddywedir ymhellach am dano yn cyfranu dim at ein sicr- wydd gyda golwg arno, ac y mae yr hyn a ddywedir yn ychwanegol am dano i'w ystyried yn hytrach fel des- grifiad. Y mae yr un gŵr er mwyn egluro ei feddwl yn rhoddi deffiniad o'r cawrfil (elephant): " Creadur pedwar- troed yw y cawrfil, gyda duryn hir, hyblyg." Wrth ddyweyd mai creadnr pedwar-troed yw y cawrfil, y mae yn enwi yn unig y dosbarth y perthyna y creadur iddo. Ond nid oes gerjym eto ond drychfeddwl anmherffaith am dano, oblegid y mae llawer math o greadur- iaid pedwar-troed yn bod. O ganlyn- iad y mae yr awdwr yn y lle nesaf yn crybwyll yr hyn sydd yn gwahan- iaethu y creadur oddiwrth greaduriaid eraill yn yr un dosbarth ag ef, gan ddyweyd mai creadur pedwar-troed yw " gyda dorja hir, hyblyg," Y mae yn awr wedi llwyddo i nodi allan y marc penodol hwnw yn y creadur ag sydd yn ei wahaniaethu oddiwrth bob cre- adur arall yn yT un dosbaith ag ef, oblegid nid oes yr un arall ond y cawr- fil yn ateb i'r darnodiad hwn. Y mae yn afreidiol bellach dyweyd dim yn ychwaneg am y creadur mewn trefn i roddi sicrwydd i ni am dano, megys ; fôu am ei faintioli a'i amrosgedd, a lliw ei groen, &c, ac y mae hyny ì'w ; ystyried yn hytrach fel desgrifiad ac ■ nid deffiniad. Ac y mae yn haws rhoddi desgrifiad o wrthddrych na rhoddi deffiniad o i hono. Gallwn ddyweyd llawer o beth- | au am dano, ond nid mor hawdd yw dyweyd beth yw. Gwaith anmhosibl I o'r bron yw i neb sefyll ar derfynau bodolaeth unrhyw greadur a rhoddi ei j fys ar y nôd ag sydd yn ei wahaniaethu ; oddiwrth y creadur agosaf ato. Y mae llysieuyn yn beth digon ad- j nabyddus i ni, ac y mae o fewn ein 1 gallu i'w ddesgrifio trwy enwi rhai o'i briodoleddau, oud nid gyda'r un rhwyddineb y gallwn roddi deffiniad o hono. Y mae tu hwnt i'n cyrhaedd- iadau i ddyweyd ymha le y mae ei fywyd yn terfynu oddiwrth fywyd yr anifail; oblegid y mae creaduriaid yn bod, fel yr yspwng er engraifft, sydd yn meddiannu y tir canol rhwng llys- iau ac anifeiliaiä, fel nas gŵyr dyn ar ba ochr i'w ìhestru,—nis gall ddyweyd pa un ai llysiau ai anifeiliaid ydynt. A oes rhywun erioed wedi ateb i foddlonrwydd y cwestiwn, Beth yw dyn î Y mae dyn, wrth geisio rhoddi darnodiad o hono ei hun, yn y perygl o wneuthur ei hunan yn cdim ond ani- 2 h