Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CCXVII. IONAWR, 1865. [Llyfr XIX. límttytòm. CYFUNIAD DOETHINEB A NERTH YN NGWEITHREDOEDD DUW. GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN HUGHES, LIVERPOOL. Daniel ii. 20 : "Bendigedig fyddo enw Duw o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, eanys doethineb a nertb. ydynt eiddo ef." I. Y mae prif anrhydedd ac urddas dyn yn gynnwysedig mewn tri pheth : mewn adnabyddiaeth o enwr Duw—cydffurfiad à delw Duw—a mwynhâd o gyrudeithas Duw. Prif gamp y deall ydy w adnabod Duw; prif addurn moesol dyn ydyw delw Duw; a phrif ddedwyddwch yr enaid ydyw mwynhâd o'i ffafr a'i gym- deithas ef. Nis gellir mwynhâu Duw heb gyfranogi o'i ddelw ef ; ac nis gellir tebygu iddo heb ei adnabod. A pha beth bynagsydd yn gwasanaethu i roddi adna- byddiaeth o Dduw, y mae hyny yn tu- eddu at ddyben penaf dyn,—gogoneddu Duw a'i íwynhâu. Galarus yw meddwl fod gwybodaeth o Dduwr yn brin iawn ymysg dynion. Er mor annaturiol yd- 3rw hyn, eto y mae diffyg gwybodaeth am Dduw yn dra chyffredinol. 0 her- \\ydd hyn y cwynai yr Arglwydd uwch ben yr Israel gynt. "Meibion Israel, gwrandewch air yr Arglwydd ; canys y mae cŵyn rhwng yr Arglwydd â thrig- olion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd, na gwybodaeth o Dduw yn y wlad." Nid oes dim mor fuddiol âg adnabyddiaeth o Dduw. "Y rhai a adwaenant eu Duw, a fyddant gryfion ac a ffynant." Cysurus yw meddwl fod hyn yn beth i'w gyrhaedd. "Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr Arglwydd." Un o addewidion grasol Duw ydyw, "Rhoddaf iddynt galon i'm hadnabod." Cael hyn yw y caffaeliad gwerthfawrocaf; canys, "Hyn yw y I bywyd tragywyddol, iddynt dy adnabod ', di yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfon- ; aist ti, Iesu Grist." Nid oes modd adnabod yr Arglwydd j'ond trwy yr amlygiadau a wnaeth o j hono ei hun, ac i'r graddau y gwn.ieth. ! Gwnaed hyn ganddo trwy y grëadigaeth, ! trwy ragluniaeth, a thrwy ei air; neu, I ruewn geiriau eraill, trwy yr hyn a \ wnaeth a thrwy yr hyn a ddywedodd, i trwy weithredoedd ei law a thrwy eiriau | ei enau. Felly y cawn y Salmydd yn llefaru : "Y nefoedd sydd yn dadgan ; gogoniant Duw, a'r ffurfafen sydd yn : mynegu gwaith ei ddwylaw ef,"—dyna | y grëadigaeth. "Dydd i ddydd a draetha | ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybod- ; aeth,"—dyna orchwyliaethau rhaglun- j iaeth. "Cyfraith yr Arglwydd sydd i berffaith, yn troi yx enaid,"—-dyna'r í gair. Mae esgeulusdra dynion o graffu ar weithredoedd Duw yn cael achwyn arno. Yn nyddiau Esaiah, "yn eu gwleddoedd hwynt yr oedd y delyn, a'r nabl, y dympan, y bibell, a'r gwîn ; ond am waith yr Arglwydd nid edrychent, a gweithred ei ddwylaw ef nid ystyrient." Cawn fod Job a'i gyfeiüion yn sylwi llawer ar weithredoedd Duw, ac felly. Dafydd frenin. Y mae hyn yn wasan- aethgar iawn i ddybenion gair Duw ; ac y mae gweled llaw Duw mewn crëadig- aeth a rhagluniaeth yn ennyn mewn cristion fyfyrdodau goruchel a sanct- aidd. Trwy hyn y bydd rneddwl y cristion ar y ddaear yn cyd-daraw â'r eglwys fuddugoliaethus yn y neíbedd,