Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORPA. Rhif. CCXX. EBRILL, 1865. [Llyfr XIX. WtMtyẀW. WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, ABERTAWY. Pwy na ddymunai weled Pantycelyn? Y mae yn un o brif fanau y byd Meth- odistaidd. Nid oes yr un o honynt yn fwy enwog. Fe allai yn wir nad oes yr un o honynt yn cael ei enwi mor fyn- ych; ac eto y mae yn bur sicr nad oes yr un o honynt ag y mae mor ychydig o'r Methodistiaid wedi ei weled â'u Uygaid. Y mae y Cymdeithasfäoedd mawrion wedi tynu miloedd ar filoedd o bryd i bryd i'r Bala a Llangeitho. Y mae Trefecca yn ymyl y ffordd fawr, ac o fewn i lai na milldir i dref Talgarth. Bu yn gartref i deulu mawr Howell Harries. Y mae y Gymdeithasfa wedi talu yinweliad â'r lle amrywiol weith- iau; ac y mae wedi bod fwy nag un- waith, ac i fod eto ymhen enyd bychan, yn fangre ysgol y prophwydi. Ond yr unig beth sydd erioed wedi hynodi Pantycelyn yw ei fod wedi bod yn gar- tref i William Williams, ac i'w fab ar ei ol. Fe ddywedir ei fod unwaith wedi bod ymron cael yr anrhydedd o dderbyn y Gymdeithasfa. Yr oeddid yn bwr- iadu ei chynnal yn Llanymddyfri, a daethai amryw o'r brodyr ynghyd yno i'r dyben hwnw, ac yn eu plith William Williams. Ond ymgasglodd anwariaid y dref at eu gilydd, ac ymosodasant ar y pregethwyr. Ymddangosai yn gwbl anobeithiol i gael llonyddwch i fyned ymlaen â'r gwaith yn Llanymddyfri, a chynnygiodd Williams fod iddynt fyned ar unwaith i Bantycelyn, a chynnal y Sasiwn yno; a thua Pantycelyn y cy- chwynasant. Ond cyn eu bod wedi myned nebpell o Lanymddyfri, cyfarfuasant â Howell Harries yn dyfod i waered ar hyd ffordd Trecastell. " Pa le yr ydych yn myned, frodyr ?" ebe efe. " Tua Phant- ycelyn i gynnal y Sasiwn," oedd yr at- ebiad ; "y mae yn erlidigaeth ofnadwy yn Llanymddyfri. Y mae yn anmhosibl myned yn y blaen yno." "Erlidig- aeth!" ebe yntau; "rhaid i ni beidio a throi ein cefnau ar erlidigaeth. Rhaid gorchfygu yr erlidigaeth. Trowch yn eich holau, frodyr!" Yn eu holau yr aethant, o dan arweiniad Harries. Gwnaed ail ymosodiad; gorchfygwyd yr erlidigaeth; ennillodd yr efengyl fuddugoliaeth ogoneddus ar ei gwrth- wynebwyr. Ond collodd Pantycelyn yr anrhydedd o dderbyn y Sasiwn. Ni chafodd gynnyg ar hyny byth mwyach. A chan ei fod yn fan ar y naill du, ac ar ei ben ei hunan, heb fod ar ymyl y ffordd o unrhyw fan yn y byd i unrhyw fan arall, a chan nad oes ond ychydig neu ddim Methodistiaeth yn yr ardal ymha un y mae yn sefyll, mae y fangre âg enw pa un y mae holl Fethodistiaid y byd mor gynnefin, yn parhâu i'r rhan fwyaf o honynt yn fangre anadna- byddus. Y mae yn gof genyf fy mod, er dydd- iau boreuaf fy mebyd, wedi ffurfio rhyw ddychymyg ynghylch pa fath le ydoedd Pantycelyn. Nid oeddwn yn gwybod ymha le yr ydoedd yn sefyll. Yn wir, bûm am beth amser yn llafurio o dan yr hoffus gamsyniad ei fod yn rhywle rhwng Llanfair a St. Athan's yn Mro Morganwg; ac er i mi, tra eto yn fach- gen bychan, gael y siomedigaeth o ddeall ei fod yn "Sir Gaer" y Deheudir, par- häodd y darlun o'r lle ag yr oeddwn