Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CCXXI. MAI, 1865. [Lltfr XIX. %xwdỳ0Ìmvt. YR OES A'I DYLEDSWYDDAU. GAN Y PARCH. JOHN PUGH, B.A. Mewn ysgrif flaenorol, sylwyd ar ddau o nodweddiadau yr oes bresennol, sef I. Ei bod yn oes ymha un y mae cyn- nydd mawr mewn gwahanol gangenau gwybodaeth. Ac yn II. Ei bod yn oes hynod am amledd ac amrywiaeth ei manteision crefyddoi. Yr ydym bellach yn myned ymlaen at rai pethau yn ychwanegol, III. Mae yn oes nodedig am ei hys- bryd masnachol ac anturiaethus. Mae yr ysbryd hwn yn peri golygfa gyffelyb i'r hon y gafodd y prophwyd Daniel, yr hwn a welodd bedwar gwynt y nefoedd mewn cyíFro. Mae yn cynhyrfu dynion ymhob cyfeiriad, ac rnewn gwahanol ffyrdd yn eu dwyn i gyfarfod â'u gilydd. Mae yr ysbryd hwn yn rhwyfo afonydd, yn rhychio moroedd mawrion, ac yn darostwng rhai elfenau gwylltion fel ag i beri iddynt fod yn wasanaethgar i ddybenion pwysig; mae yn ffurfio rheilffyrdd, ac yn peri fod peiriannau a cherbydau yn chwyrnellu trwy wa- hanol ardaloedd; mae yn troi olwynion gweithfáoedd mawrion; mae yn adeil- adu palasau gwych, yn arloesi tiriog- aethau anial, ac yn peri fod cymdeithas yn gyffredinol yn berwi gan frwdfryd- edd. Ac mewn oes ymha un yr am- lygir y fath fywiogrwydd masnachol, mae yn eglur fod amryw bethau y dylid yn barhâus eu cadw mewn golwg a'u dwyn i ymarferiad. Dylai pob un sydd yn gofalu am ei gysur a'i gymeriad ochelyd bod yn anghymedrol mewn ysbryd anturiaeth- us. Mae graddau o egni a gwroldeb yn gwbl anghenrheidiol mewn oes o'r fath yma; a'r dyn a fyddo yn amddifad o hyny, bydd yn debyg o gael ei adael I ar ol yn dra buan gan rywrai o'i am- ■ gylch sydd yn f'wy bywiog a chalonog. Ond eto, un o ragoriaethau y dyn doeth ydyw ei fod yn ystyried yn ddyfal lwybr ei draed; ac y mae hyn yn cynnwys ei fod yn gydwybodol yn arfer ysbryd barn cyn ymgymeryd âg unrhyw beth a all fod yn bwysig ei ganlyniadau. Cefais er ys ychydig amser yn ol addysg gyda golwg ar hyn wrth edrych ar fachgenyn yn sefyll yn ymyl llyn bychan, yr hwn oedd y pryd hwnw wedi rhewi drosto. Yr oedd yn amlwg wrth y bachgenyn fod ynddo | awydd cryf am gael llithrfa yn groes iddo. Ond gwelwn ef yn gwneyd prawf o'r ymylau, a thybiaf iddo ddeall fod yr iâ yn rhy wan i'w ddal, a bu yn ddigon call i droi ymaith oddiwrtho, gan ymwadu â'r pleser oedd ganddo mewn golwg. Pe buasai llawer yn ym- ddwyn yn gyffelyb iddo mewn perth- ynas i wahanol anturiaethau, buasent yn gochelyd llîaws o ofidiau. Ym- ddengys mai un achos mawr o'r anhwylusdod a'r dyryswch sydd yn cymeryd lle mewn masnach yn gyffred- inol ar wahanol adegau ydyw, fod cy- nifer yn ymroddi yn ormodol i ysbryd anturiaethus. Mae dyledswydd arall hefyd i sylwi arni yn gysylltiedig âg ysbryd masnachol yr oes hon, sef gochelyd pob dull ac arferion annheg tuag at sierhâu llwyddiant. Mae yn glod i'n gwlad fod cynifer yn ym-